Is-bartneriaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw’r Bartneriaeth Iechyd Meddwl (a elwir hefyd yn ‘Bartneriaeth Cynllunio a Datblygu Iechyd Meddwl’)
Y Bartneriaeth Iechyd Meddwl sy’n gyfrifol am ddatblygu gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol fel rhan o’r agenda ‘Byw’n Dda’ a amlinellir yn Strategaeth Iechyd a Gofal Powys er mwyn atgyfnerthu a thrawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant, ond hefyd i sicrhau fod gwasanaethau’n datblygu er mwyn diwallu anghenion deddfwriaeth iechyd meddwl ehangach .
Mae’r Bartneriaeth yn cynnal nifer o is-grwpiau partneriaeth, yn benodol i ymgysylltu ag a gwrando ar leisiau defnyddwyr gwasanaethau a’u gofalwyr, a hefyd i ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl y Trydydd Sector. PAVO sy’n gyfrifol am gefnogi unigolion a sefydliadau i gyfrannu at y grwpiau hyn.
Freda Lacey (Uwch Swyddog PAVO – Iechyd a Llesiant)
Owen Griffin (Swyddog Cyfranogiad Iechyd Meddwl PAVO); mae hefyd yn mynychu cyfarfodydd y Bartneriaeth er mwyn cefnogi cynrychiolwyr defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ar y Bartneriaeth.
Amserlen cyfarfod: bob deufis.