Rydym yn ymwybodol bod llawer o faterion yn wynebu'r sector ac rydym wedi datblygu'r digwyddiad hwn yn seiliedig ar rai o'r materion/anghenion sydd wedi codi.Bydd siaradwyr gwadd yn bresenol a fydd yn canolbwyntio ar y pynciau craidd megis ariannu a gwirfoddoli. Bydd cyfleoedd hefyd i drafod, holi a rhwydweithio.
Bydd y digwyddiad yma’n ddechrau da i gefnogi sefydliadau’r trydydd sector. Os hoffech fynychu, cwblhewch y ffurflen isod er mwyn cadarnhau eich lle.
Ffurflen archebu: https://bit.ly/Uwchgynhadledd-CB
Bydd rhagor o wybodaeth am y siaradwyr gwadd ac amserlen lawn y digwyddiad yn cael eu hanfon at fynychwyr dros yr wythnosau nesaf.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â PAVO.
info(at)pavo.org.uk
01597 822191