Yn flaenorol, bu'n rhaid i gleifion yng ngogledd y sir deithio i ysbytai cyffredinol dosbarth y tu allan i'r sir i gael mynediad at sganio offthalmig digidol. Erbyn hyn mae clinigau rheolaidd yn cael eu cynnal yn ysbytai Llanidloes a'r Trallwng sy'n cynnig y cyfleuster hwn.
Mae Judith Jamieson yn Uwch Reolwr Nyrsio ar gyfer Datblygu Cleifion Allanol gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Yn draddodiadol yn y rhan hon o'r sir byddai angen i'n cleifion gael eu cyfeirio ymlaen i’r Amwythig neu Aberystwyth ar gyfer y sgan diagnostig hwn gan yr Ymgynghorydd Offthalmoleg. Roedd hyn yn arwain at sawl ymweliad â gwahanol safleoedd ysbytai, ac oedi posibl o ran diagnosis a chychwyn cyfundrefnau triniaeth.
"Mae cyflwyno'r cyfleuster hwn yn y sir wedi galluogi darparu apwyntiadau un stop i'n cleifion yng Ngogledd Powys, gan ddod â gofal yn nes at adref," ychwanegodd.
Mae Clair Rea yn un o'r aelodau staff newydd – gan ymuno â'r bwrdd iechyd fel Ymarferydd Gwyddonol Offthalmig. Esboniodd: "Os yw'r DU yn dilyn profiadau gwledydd eraill y Gorllewin, rydym yn disgwyl i'r galw am wasanaethau gofal llygaid dros yr 20 mlynedd nesaf gynyddu 16% ar gyfer cyflyrau fel glawcoma, 47% ar gyfer dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran, 50% ar gyfer cyflyrau fel cataractau, a hyd at 80% ar gyfer retinopathi diabetig. Felly, mae'n gadarnhaol iawn y gallwn ddarparu'r gwasanaeth newydd hwn – mae'n well i gleifion, mae'n fwy effeithlon i'r gwasanaeth iechyd a bydd yn helpu i leihau allyriadau carbon hefyd."
Uchelgais Rhaglen Les Gogledd Powys yw trawsnewid gwasanaethau iechyd a lles yn y rhan hon o'r sir. Er ei fod yn datblygu cynlluniau ar gyfer campws iechyd a lles amlasiantaethol yn y Drenewydd, mae hefyd yn cefnogi amrywiaeth o fentrau ar draws Gogledd Powys yn ariannol – fel hwn – a all wneud gwelliannau gwirioneddol yn gyflym.
Carys Williams yw Rheolwr Newid Clinigol gyda thîm y rhaglen. Ychwanegodd: "Rydym hefyd yn bwriadu cyflwyno cyfleusterau sganio tebyg ar y campws yn y Drenewydd a ddylai, ar yr amod bod cyllid ar gael, fod ar agor ddiwedd 2026. Yr ydym eisoes yn gweld ffrwyth y buddsoddiad presennol hwn, serch hynny. Eisoes mae dwsinau o gleifion wedi cael eu sganiau Tomograffeg Cydlyniaeth Optegol yn Llanidloes a'r Trallwng. Mae hyn yn rhan bwysig o'n gweledigaeth - darparu cymaint o wasanaethau â phosibl yn ein hysbytai yma yng ngogledd Powys."
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen ar gael yn http://www.powyswellbeing.wales/?lang=cy
Yn ychwanegol, gall cleifion Gogledd Powys gysylltu â Swyddog Cyswllt Gofal Llygaid. Gall Ellen Ryan gefnogi gyda’r amrywiaeth o gwestiynau gofal llygaid sydd gan bobl, yn cynnwys hunan ofal a meddyginiaeth. Gall hefyd gynnig cyngor ar offer a thechnoleg all helpu pobl yn y cartref neu yn y gwaith yn ogystal â chynnig manylion grwpiau cefnogi a sesiynau sydd ar gael i bobl sydd â materion gofal llygaid. Gellir cysylltu ag Ellen ar 07701 295138.