Nod y prosiect hwn yw:
- Asesu dyluniad a darpariaeth y Rhaglen Cydlyniant Cymunedol;
- Deall pa mor dda mae’r rhaglen yn cefnogi cydlyniant cymunedol ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol; a
- Canfod gwersi i’w dysgu ar gyfer gwella’r rhaglen.
Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn darparu adroddiad i Lywodraeth Cymru. Bydd yr adroddiad hwn yn ddienw. Ni fydd yn cynnwys unrhyw enwau ac ni fydd unrhyw sylwadau’n cael eu priodoli i bobl.
Rydym yn awyddus i siarad â chynrychiolwyr unrhyw fudiad neu grŵp cymunedol yng Nghymru.
Anfonwch ebost at: research(at)diverse.cymru i gofrestru ar gyfer y grŵp ffocws hwn, os gwelwch yn dda.
Rhowch wybod inni:
- Os hoffech gyfrannu yn Gymraeg, yn Saesneg, neu’n ddwyieithog
- Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd ar gyfer cymryd rhan yn y grŵp ffocws hwn.
Rydym hefyd yn cynnal grwpiau ffocws ar gyfer:
·Sefydliadau pobl anabl ar 29ain o Fawrth am 1yp
·Sefydliadau pobl dduon, asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ar 31ain o Fawrth am 6yh.