Fel sefydliad sy’n cefnogi grwpiau cymunedol ac elusennau, roeddem eisiau rhoi gwybod i chi am y newidiadau sydd i ddod er mwyn i chi allu parhau i roi cyngor a chymorth i sefydliadau yn eich ardal.
Ar 15 Tachwedd 2023 mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn newid.
O hynny ymlaen:
· bydd sefydliadau’n gallu ymgeisio am hyd at £20,000 mewn un grant;
· byddwn ni’n gallu ariannu eich prosiect am hyd at ddwy flynedd;
· ni fydd sefydliadau’n gallu cael mwy nag un grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ar y tro mwyach.
Mae'r newid hwn i'r terfyn uchaf ar y rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn rhoi mwy o sefydlogrwydd ariannol, sicrwydd hirdymor a chynnydd mewn cyllid hygyrch i brosiectau.
Os yw sefydliadau am ymgeisio am rhwng £300 a £10,000 i'w wario dros flwyddyn, nid oes angen iddynt wneud unrhyw beth. Gallant barhau i gwblhau eu cais fel y cynlluniwyd.
Os hoffai sefydliadau ofyn am fwy na £10,000 (a llai na £20,000), neu wario'r grant dros ddwy flynedd, dylentaros a chyflwyno eu cais ar ôl 15 Tachwedd.
Noder mai’r amser y mae’n ei gymryd fel arfer i asesu a thalu ymgeiswyr llwyddiannus yw 12 wythnos. Fel arfer ni fyddai cais gyflwynir ar 15 Tachwedd yn cael ei ddyfarnu tan ddechrau mis Chwefror 2024.
O 15 Tachwedd dim ond un grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol y gall sefydliadau ei gael ar y tro. Mae hyn yn golygu os bydd sefydliad yn derbyn cyllid cyn 15 Tachwedd, ni fydd yn gallu ymgeisio am fwy o gyllid nes bod y prosiect wedi’i gwblhau.
Un o effeithiau'r newid hwn yw ei bod yn bosibl na fyddwn yn gallu cefnogi'r un nifer o brosiectau o fewn ein cyllideb wrth i uchafswm y grant gynyddu. Rydym yn annog sefydliadau yn gryf i ystyried eu cyllideb yn ofalus a gofyn am yr hyn sydd ei angen arnynt ar gyfer eu prosiect penodol. Bydd hyn yn ein helpu i gynyddu nifer y cymunedau y gallwn eu cefnogi o dan y rhaglen ar ei newydd wedd.