Bydd Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebiadau’r Comisiwn yn rhoi diweddariad ar rai o’r prif feysydd y maen nhw’n canolbwyntio arnynt, fel ymgyrchoedd i ddod, digwyddiadau a chanllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae’r Comisiwn hefyd yn awyddus i glywed gennych chi a’r sefyllfa i elusennau ar lawr gwlad ar hyn o bryd yma yng Nghymru.
Bydd y sesiwn yn un hybrid, a bydd croeso i’r rheini sydd am fynychu’n bersonol ymuno yn swyddfa Caerdydd CGGC. Mae’n agored i bob elusen gofrestredig, ond mae lleoedd yn gyfyngedig a byddant yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. I sicrhau eich cyfraniad i’r drafodaeth hon, anfonwch e-bost at polisi@wcva.cymru yn nodi yr hoffech chi ymuno’n bersonol neu ar-lein. A fyddech gystal â nodi hefyd os hoffech gyfrannu i’r sesiwn yn Gymraeg neu’n Saesneg.