Taflen Ffeithiau
Loteri Wythnosol yw Loto Powys sy’n cefnogi achosion da lleol a mentrau yn y gymuned.
Gyda chyllid yn cael ei leihau ar draws lawer o feysydd gwasanaeth, mae Loto Powys yn ffordd o rymuso ein hachsion da i godi arian drostynt eu hunain.
Hefyd, bydd yn eu helpu i barhau i gynnig gwasanaethau hanfodol ar gyfer ein trigolion.
Mae pob elw a gynhyrchir drwy Loto Powys yn gwneud lles i achosion da yn y sir. Rydym yn rhannu 50 y cant o’r arian ry’ch chi’n ei dalu am docyn yn uniongyrchol i achosion da o’ch dewis.
Mae 10 y cant yn mynd tuag at Gronfa Gymunedol Powys a weinyddir trwy GyngorSir Powys.
Mae’r Loto yn rhoi cefnogaeth anhepgor i amrywiaeth eang o sefydliadau lleol sy’n gwneud lles i’r gymuned leol.
CLICIWCH ISOD AM FWY O FANYLION