Llywodraeth Cymru - Rhybuddion lefel 2

Crynodeb o Alert lefel 2, yn weithredol o 6am, 26ain Rhagfyr 2021.

Ar lefel rhybudd 2 mae'n rhaid i chi:
● Gwisgo gorchudd wyneb (oni bai bod gennych esgus rhesymol i beidio â gwisgo gorchudd wyneb) yn mhob lle cyhoeddus dan do, gan gynnwys mewn tafarn, caffi neu fwyty pan na fyddwch yn
eistedd.
● Peidio â chwrdd â mwy na 5 o bobl mewn caffi, bwyty, tafarn neu le cyhoeddus arall (heblaw am eich teulu/pobl sy’n byw yn eich tŷ os yw’r nifer yn fwy na hyn). Mae hyn yn berthnasol mewn ardaloedd dan do ac awyr agored yn y safleoedd hyn.
● Gweithio gartre os medrwch.
● Hunanynysu am 7 diwrnod os ydych yn profi yn bositif am COVID-19. Dylech gymryd Prawf Llif Unffordd (LFT) ar ddiwrnod 6 a 7. Os yw'r naill brawf neu'r llall yn bositif, dylech barhau i
hunanynysu nes i chi gael 2 LFT negyddol, neu ar ôl diwrnod 10, pa un bynnag sydd gynharaf.
● Peidio â chymryd rhan mewn digwyddiad wedi’i drefnu o dan do sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl neu digwyddiad wedi’i drefnu yn yr awyr agored sy’n cynnwys mwy na 50 o bobl. Rhaid i bob digwyddiad wedi’i drefnu gael ei drefnu gan gorff cyfrifol a rhaid llunio asesiad risg.

Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Ar lefel rhybudd 2 dylech:
● Ddilyn y canllawiau sy’n cyfyngu ar y nifer o bobl nad ydynt yn byw gyda chi yr ydych yn eu cwrdd.
● Cyn cymdeithasu, cofiwch brofi. Cymerwch brawf llif unffordd cyn mynd allan os nad oes gennych unrhyw symptomau, yn enwedig pan fyddwch yn cwrdd â phobl eraill. Os yw yn bositif, peidiwch â mynd allan a threfnwch brawf PCR o fewn 24 awr.
● Os ydych yn cwrdd â phobl sydd ddim yn byw gyda chi gwnewch hynny yn yr awyr agored pan fydd hynny’n bosibl. Os ydych yn cwrdd o dan do gwnewch yn siŵr bod y lle wedi’i awyru yn dda.

Cliciwch ar y linc hon am Lefel rhybudd 2: crynodeb

Dyma fersiwn hawdd ei ddarllen o’r gofynion newydd cliciwch yma
Yma gallwch ddod o hyd i’r cerdyn gweithredu mesurau rhesymol posibl cliciwch yma

Gweithgareddau a drefnir - Lefel rhybudd 2:
Gall hyd at 50 o bobl gwrdd ar gyfer gweithgaredd wedi’i drefnu TU ALLAN
Gall hyd at 30 o bobl gwrdd ar gyfer gweithgaredd wedi’i drefnu DAN DO.

Nid oes unrhyw derfynau ar y nifer o blant dan 11 oed a all gymryd rhan.
Rhaid cymryd pob mesur rhesymol, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb, pellhau cymdeithasol, systemau unffordd, mynediad cyfyngedig i ardaloedd llai, awyru, arwyddion ac ati.
Rhaid i bob gweithgaredd fod yn weithgaredd wedi’i drefnu; mae hyn yn golygu bod angen iddynt gael eu trefnu gan un o’r canlynol:
· fusnes
· corff cyhoeddus neu sefydliad elusennol, buddiannol, addysgol neu ddyngarol
· clwb neu sefydliad gwleidyddol
· neu gorff llywodraethu cenedlaethol chwaraeon neu weithgaredd arall.
Rhaid i drefnydd y gweithgaredd fodloni gofynion yn y Rheoliadau i gymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a rhaid iddo gynnal asesiad risg.

Rhaid adolygu asesiadau risg ar bob newid lefel rhybudd.

● Mae gorchuddion wyneb yn orfodol ym mhob man cydoeddus, gellir dod o hyd i wybodaeth bellach cliciwch yma
● Sylwch fel mangre rheoledig, mae angen cymryd pob mesur rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â coronafirws: Gellir dod o hyd i'r mesurau rhesymol diwedderach yma


Camau ar gyfer ailagor
Wrth i chi fynd ati i ailagor eich canolfan gymunedol drwy gymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a’i ledaenu (gan gynnwys cadw pellter corfforol o 2m, hylendid, defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), ac o bosibl casglu gwybodaeth gyswllt), gall fod yn ddefnyddio ystyried rhai materion ychwanegol:

● Cam 1: Pa weithgareddau rydych chi’n bwriadu eu cynnal? Os nad chi sy’n berchen ar y lleoliad, a ydych chi wedi siarad â’r perchennog? A oes gennych gytundeb/siarter gyda’r Perchennog?
● Cam 2: Ydych chi’n gwybod beth fydd angen i chi ei wneud? Ee newid yswiriant neu gytundebau llogi. Mae CGGC wedi llunio canllawiau ymarferol ar gyfer canolfannau cymunedol sy’n ailagor, ac efallai y byddant o ddefnydd i chi.
● Cam 3: Ydych chi wedi cynnal asesiad risg? Bydd gan y rhai sy’n gyfrifol am y ganolfan gymunedol (y rheolwyr) ddisgresiwn o hyd ynghylch pryd y byddant yn ystyried ei bod yn ddiogel agor ar gyfer unrhyw weithgaredd a ganiateir gan ddeddfwriaeth. Fel rhan o’ch asesiad risg, dylech ystyried sut y byddech yn ymateb pe bai cyfyngiadau symud yn cael eu gorfodi ar lefel leol. Mae Templedi Asesu Risg ac enghreifftiau ar gael ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
● Cam 4: Pwy sy’n cynnal y gweithgaredd? Ydy’r rhai sy’n cynnal y gweithgareddau hynny yn deall gofynion y rheoliadau? Ydyn nhw wedi gweld yr asesiad risg ar gyfer y lleoliad? Ydyn nhw wedi cynnal asesiad risg ar gyfer y gweithgaredd sydd yn ofynnol arnynt i gynhyrchu? Ydyn nhw’n ymwybodol o’r canllawiau hyn? Ydyn nhw’n ymwybodol bod CGGC yn cynnig cymorth ychwanegol? Cofiwch fod rhai gweithgareddau na ellir eu cynnal, ee ymgynnull o dan do heb esgus rhesymol. Bydd gan rhai gweithgareddau eu canllawiau penodol eu hunain ynghylch pryd a sut y caniateir iddynt ail-ddechrau; gweler adran D isod. Os na all gweithgaredd ddilyn yn ddiogel y cyngor yn y canllawiau perthnasol ar gyfer y gweithgaredd hwnnw, argymhellir nad yw’n cael ei gynnal.
● Cam 5: Pa addasiadau fydd angen ichi eu gwneud? Os oes angen ichi wneud addasiadau er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y ganolfan, a ydych wedi ystyried faint y bydd y rhain yn ei gostio? Ceir linc at gymorth ychwanegol isod.
● Cam 6: A ydych chi mewn cysylltiad â’ch seilwaith cymorth lleol? Mae trefniadau cymorth gwahanol ar gael ym mhob sir. Os oes gennych gyswllt eisoes yn eich Awdurdod Lleol, awgrymwn eich bod yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd i drafod unrhyw newidiadau mewn rheoliadau a chanllawiau. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn cysylltu â’r Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol all ddarparu cymorth o bosibl. Byddant hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi a oes unrhyw gyfyngiadau lleol yn berthnasol.

Os ydych yn llogi canolfan gymunedol, mae camau 4 i 6 yn berthnasol i chi.
Hefyd cyrchwch yr adnoddau a'r grŵp Facebook gan ddefnyddio'r dolenni
isod:Resources folderCommunity buildings Facebook group

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity