#BydWynebiWaered
O’r 6ed Gorffennaf ymlaen, bydd yr RNIB yn lansio ein hymgyrch Byd Wyneb i Waered, wythnos o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth
o’r heriau unigryw mae cadw pellter cymdeithasol yn eu creu i bobl ddall ac â golwg rhannol.
Rydyn ni wedi ffurfio partneriaeth gydag arddangosfa hysbysebu fwyaf Ewrop, Piccadilly Lights. Unwaith bob awr, bydd y goleuadau’n cael eu troi ben i lawr i gynrychioli’r Byd Wyneb i Waered mae pobl â cholled golwg yn ei wynebu, gyda neges i’r cyhoedd fod yn garedig, bod yn ymwybodol a chynnig helpu.
Hefyd rydyn ni wedi creu fideo a chwis cadw pellter cymdeithasol i sicrhau dealltwriaeth o golled golwg.
Sut gallwch chi helpu
Er mwyn tynnu sylw at weithgarwch yr wythnos sy’n dechrau ar 6ed Gorffennaf, rydyn ni’n gofyn i Aelodau’r Senedd, y cyhoedd, sefydliadau a busnesau i ddangos eu cefnogaeth drwy droi eu proffiliau a’u logos ar gyfryngau cymdeithasol wyneb i waered.
- • Trowch eich proffiliau ar gyfryngau cymdeithasol wyneb i waered yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 6ed Gorffennaf ac annog eich dilynwyr a’ch cefnogwyr i wneud yr un peth
- • Ateb a rhannu ein cwis
- • Rhannu ein fideos a chynnwys arall
- • Hybu’r ddeiseb sy’n cael ei harwain gan ymgyrchydd yn galw am weithredu er mwyn gwneud manwerthu’n fwy hygyrch i bobl anabl
Geiriau a awgrymir ar gyfer negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol:
“Mae cadw pellter cymdeithasol wedi troi’r #BydWynebiWaered i bobl â cholled golwg. Yr wythnos yma, rydw i’n troi fy llun proffil wyneb i waered i gefnogi ymgyrch @RNIBCymru i godi ymwybyddiaeth o’r heriau hyn ac i ofyn i’r cyhoedd fod yn garedig, bod yn ymwybodol a chynnig helpu.
Rhowch gynnig ar ateb y cwis i gael gwybod mwy quiz”
Rydw i’n cefnogi ymgyrch #BydWynebiWaered @rnib_campaigns sy’n tynnu sylw at yr heriau mae llawer o bobl ddall ac â golwg rhannol yn eu profi wrth geisio cadw pellter cymdeithasol. Byddwch yn ymwybodol a chynnig helpu os gallwch chi. Rhowch gynnig ar ateb y cwis i gael gwybod mwy quiz
Ein gofynion polisi
Mae ymgyrch #BydWynebiWaered yn adeiladu ar y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud eisoes yng Nghymru yn ystod y cyfyngiadau symud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posib i sicrhau nad yw pobl ddall ac â golwg rhannol yng Nghymru’n cael eu trin yn annheg gan yr ymateb i bandemig Covid-19.
Rydyn ni wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud y canlynol:
- • Cyhoeddi cyfarwyddyd i ddarparwyr gwasanaethau, busnesau a chyflogwyr i esbonio sut i wneud mesurau cadw pellter cymdeithasol yn hygyrch
- • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r anawsterau mae pobl â cholled golwg yn eu hwynebu wrth gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol, er mwyn lleihau stigma
- • Creu cyfarwyddyd penodol ar gyfer pobl ddall ac â golwg rhannol ar gadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys rheolau clir ar dywys, i helpu pobl i deimlo’n fwy hyderus eu bod yn gallu symud o gwmpas y lle yn ddiogel ac adfer eu hannibyniaeth
- • Cymryd camau i sicrhau bod pob newid i ofod cyhoeddus yn hygyrch i bobl ddall ac â golwg rhannol.
Diolch i chi, fel erioed, am eich cefnogaeth barhaus. Cofiwch gysylltu os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am unrhyw rai o’r materion hyn neu os gallwn ni ddarparu rhagor o gymorth.