Cyhoeddodd y cyngor sir ei fod wedi lansio hyb gwybodaeth sydd â chyngor achefnogaeth ar ddelio â chostau byw.
Mae Cyngor Sir Powys wedi gweithio’n agos â’i sefydliadau partner lleol i roi llwyth o wybodaeth at ei gilydd mewn un lle i sicrhau fod pawb yn gwybod pa gymorth sydd ar gael a sut i ofyn amdano.
Mae’r hyb ar-lein i’w weld yma cy.powys.gov.uk/costaubyw, ac fe’i grewyd i gynnig gymaint o gyngor â phosibl i’r rhai ym Mhowys sydd ei angen dros y cyfnodanodd hwn.
Mae wedi’i rannu’n adrannau i’w wneud yn hwylus i gael y wybodaeth, fel a ganlyn:
cyngor ar ynni yn y cartref
iechyd a lles
cyngor ar arian, budd-daliadau a dyledion
Banciau Bwyd Powys
Help gyda biliau gwasanaeth
Help i fusnesau
Cefnogaeth i deuluoedd â phlant
Mae pob adran yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol, canllawiau a chyngor all helpu gyda phroblemau costau byw, ynghyd â rhifau ffôn a dolenni i wefannau gwasanaethau eraill ar draws Powys a’r DU all helpu os byddwch angen mwy o wybodaeth ar fater penodol.
Mae’r cyngor hefyd yn creu rhwydwaith o fannau cynnes ar draws Powys, sef mannau sy’n gallu cynnig croeso cynnes i bobl Powys dros y gaeaf a chyfle i gymdeithasu, gweithio neu gymryd rhan mewn gweithgareddau tra’n cadw’n gynnes.
Bydd manylion y mannau hyn i’w gweld ar yr hyb costau byw yn fuan. Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach: “Gyda misoedd oer y gaeaf ar ein gwarthaf, bydd effaith yr argyfwng costau byw i’w deimlo nawr yn fwy nag erioed. “Crewyd yr hyb newydd i roi’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf i drigolion a chymunedau i’w helpu drwy’r cyfnod anodd hwn.
“Rydym am sicrhau fod pobl Powys yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am gymorth, cefnogaeth ac arian yn hawdd ac yn gyflym. Byddwn yn diweddaru’r hyb yn rheolaidd a byddwn yn parhau i weithio gyda thrigolion a’n cymunedau i liniaru effeithiau’r argyfwng costau byw.”
I wybod mwy am yr help sydd ar gael, ewch i cy.powys.gov.uk/costaubyw