Rydym yn eich gwahodd i lenwi arolwg ar-lein a fydd yn ein galluogi i nodi llwyddiannau, heriau a syniadau pobl ynghylch gwneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn fwy cynhwysol i bawb yng Nghymru.
Gwyddom fod miloedd o bobl ledled y wlad yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi eu cymunedau i fod yn actif. Rydyn ni eisiau deall yn well beth sy’n gweithio, beth sydd ddim yn gweithio, a pham, ac edrych ar sut gallwn ni ddefnyddio profiadau’r rhai sydd eisoes yn gwneud gwaith rhagorol i helpu eraill.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn dysgu mwy gan y rhai sy’n creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc (mewn rôl gyflogedig neu wirfoddol).
Yn ogystal â chwblhau’r arolwg, hoffem i chi hefyd anfon yr e-bost hwn ymlaen at ffrindiau neu gysylltiadau a allai fod â diddordeb mewn rhannu eu barn hefyd – rydym am ddysgu gan gynifer o bobl â phosibl.
Mae'r arolwg yn cymryd tua 10-15 munud i'w lenwi. Byddem wir yn gwerthfawrogi eich cyfraniad i helpu i lunio dyfodol chwaraeon yng Nghymru.