Gallwch gymryd rhan yn #WythnosElusennauCymru mewn nifer o ffyrdd:
- Rhannwch fideo byr – Postiwch fideo am eich gwaith ar gyfryngau cymdeithasol a chofiwch ddefnyddio’r hashnod #WythnosElusennauCymru. Mae canllaw syml ar sut i greu eich fideo ar wefan Wythnos Elusennau Cymru.
- Amlygwch eich staff neu wirfoddolwyr – Dywedwch wrth y byd am aelod staff, gwirfoddolwr neu dîm a’r gwahaniaeth y maen nhw’n ei wneud, postiwch eich neges ac unrhyw luniau a allai fod gennych chi ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #WythnosElusennauCymru (gwnewch yn siŵr bod gennych chi ganiatâd pawb sydd yn y lluniau).
- Rhannwch y pecyn ymgyrchu – Anfonwch becyn ymgyrchu Wythnos Elusennau Cymru at eich ffrindiau, cefnogwyr a phartneriaid a gofyn iddyn nhw gefnogi eich gwaith drwy gymryd rhan yn Wythnos Elusennau Cymru. Mae digonedd o syniadau yn y pecyn ar sut i gymryd rhan a chefnogi elusennau Cymru.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wythnoselusennau.cymru.