Dyma eich cyfle i ddathlu effaith drawsnewidiol elusennau, gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol o bob lliw a llun yng Nghymru.
Y CATEGORÏAU
Mae wyth categori yng Ngwobrau Elusennau Cymru eleni:
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn (26 oed a hŷn)
- Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (25 oed ac iau)
- Cynhyrchydd Incwm y Flwyddyn
- Gwobr Hyrwyddwr Amrywiaeth
- Gwobr defnydd gorau o’r Gymraeg
- Gwobr arloeswr
- Gwobr iechyd a lles
- Gwobr Mudiad y Flwyddyn
CYMRYD RHAN
Mae enwebu rhywun yn hawdd, ewch i wefan Gwobrau Elusennau Cymru, darllenwch y rheolau a llenwi’r ffurflen ar-lein.
Achubwch ar y cyfle hwn i roi sylw i’ch hoff fudiad gwirfoddol neu wirfoddolwr, a rhoi’r cyfle iddo gael ychydig o gydnabyddiaeth haeddiannol a noson i’w chofio yn seremoni Gwobrau Elusennau Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 26 Mehefin 2023. I gael rhagor o wybodaeth ac i enwebu, ewch i www.gwobrauelusennau.cymru.
Mae Gwobrau Elusennau Cymru yn bosibl diolch i’n prif noddwr SCG Cymru a noddwyr y categorïau eraill.