Gwneud yr hyn sy'n wirioneddol bwysig ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru - sut mae gwneud iddo ddigwydd gyda'n gilydd?

Rhwng Medi 21ain a 24ain bydd siaradwyr ysbrydoledig a meddylgar o bob rhan o'r sector gofal a chymorth yn cwrdd ar-lein i rannu eu profiadau o ddefnyddio, darparu a rheoli gwasanaethau yng Nghymru.

[Translate to Welsh:]

[Translate to Welsh:]

Pymtheg aelod o'r cyhoedd yn ymateb

Rheithgor Dinasyddion 2020 - Gwyliwch Ar-lein - Medi 21ain i 24ain

*** Dilynwch www.facebook.com/MeasuringTheMountain, Trydar - @mtmwales a www.mym.cymru/rheithgor-dinasyddion-2020 i gael y diweddariadau diweddaraf ar y rhaglen a'r ffyrdd i wylio.***

 

Byddant yn siarad â Rheithwyr Mesur y Mynydd (MyM) - pymtheg aelod o’r cyhoedd a fydd yn gofyn cwestiynau iddynt i fynd at galon yr hyn sy’n wirioneddol bwysig ym maes gofal cymdeithasol a sut y gallwn wneud i hynny ddigwydd gyda’n gilydd.

Ar ddiwedd yr wythnos, bydd y Rheithwyr yn cynhyrchu cyfres o argymhellion a gyflwynir i Lywodraeth Cymru a'u rhannu â sefydliadau ledled Cymru.

Bydd MyM yn ffrydio'r sesiynau yn fyw er mwyn i chi glywed popeth y mae'r Rheithwyr yn ei glywed; bydd yn gyfle anhygoel i ddysgu mwy am:

  • Gwasanaethau arloesol - sut y gwnaethant ddigwydd a pham eu bod yn gweithio
  • Sut mae gwahanol sefydliadau wedi ymateb i'r pandemig
  • Sut beth yw bywyd o ddydd i ddydd i bobl sy'n ofalwyr di-dâl ac i'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau cymorth - darganfyddwch beth sy'n gwneud eu bywydau yn haws neu'n fwy cymhleth
  • Blaenoriaethau'r cyhoedd wrth i'r Rheithwyr ofyn cwestiynau a mynd at wraidd materion

Dyma’r tro cyntaf i Reithgor Dinasyddion gael ei gynnal ar-lein ac mae’n enghraifft anhygoel o gynnwys y cyhoedd mewn materion polisi cymhleth sy’n effeithio ar bobl ledled Cymru.

Bydd MyM yn arddangos egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gyda rhaglen sy'n cynnwys penaethiaid gwasanaethau, arweinwyr gwaith arloesol yn y trydydd sector, aelodau o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau a phobl sy'n yn ofalwyr di-dâl.

Hyd yn oed yng nghanol pandemig, cofrestrodd 125 o bobl eu diddordeb mewn bod yn Rheithiwr, arddangosiad diamwys o ba mor awyddus yw pobl Cymru i gael clywed eu lleisiau. O'r 125 hynny, dewiswyd pymtheg sy'n cynrychioli'r boblogaeth yng Nghymru yn fras. Mae ganddyn nhw gymysgedd o gefndiroedd, profiadau a gwybodaeth ac maen nhw'n cynnwys pobl anabl, gofalwyr di-dâl a phobl sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Gallwch eu gwylio yn ymgysylltu â'n tystion bob dydd rhwng Medi 21ain a 24ain - i ddarganfod mwy a chael diweddariadau diweddaraf y rhaglen wrth iddynt gael eu rhyddhau ewch i www.mym.cymru/rheithgor-dinasyddion-2020 neu dilynwch MyM ar Facebook - www.facebook.com/MeasuringTheMountain neu Trydar - @mtmwales

 

 

 

 

 

 

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity