Grant y Rhaglen Cymunedau Gwydn
Gweminarau
Cymru:
De Ddwyrain:
Canol De Cymru:
De Orllewin:
Canolbarth:
Gogledd Ddwyrain:
Gogledd Orllewin:
Morol:
Mae gan y Rhaglen Cymunedau Gwydn £2m o gyllid grant ar gael i helpu unigolion a sefydliadau i gynyddu cyfranogaeth cymunedau gyda byd natur i helpu i feithrin cymunedau gwydn.
Gwybodaeth allweddol:
- Grant cystadleuol gwerth £2m ar gael dros ddwy flynedd. Darparu hyd at fis Ionawr 2024. Hawliad terfynol erbyn mis Mawrth 2024.
- £10k yw’r isafswm sy’n gymwys (dros un i ddwy flynedd).
- £125k yw’r uchafswm os yw’n cael ei gyflwyno o fewn un Flwyddyn Ariannol neu £250k mewn dwy Flynedd Ariannol.
- I wneud cais am Gyllid, bydd angen i bartneriaid allanol wneud cais am hyn drwy gael rhif ffurflen gais ar wefan Grantiau Cymunedau Gwydn i gael mynediad at y ffurflen gais ar-lein
- Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais: 19 Medi 2022
- Ar agor i unrhyw ymgeisydd
- Gall ymgeiswyr wneud cais ar draws sawl lleoliad
- Byddwn yn edrych yn ffafriol ar geisiadau cydweithredol / ar y cyd
- Rhaid iddo fynd i’r afael â’r gweithgareddau sydd o fewn cwmpas gan ddefnyddio’r ffynonellau tystiolaeth a awgrymir a chysylltu hyn â’r gweithgareddau rydym yn eu cefnogi; os gall ymgeiswyr ddangos yn glir eu bod yn mynd i’r afael â sawl thema, byddwn yn edrych ar hyn yn ffafriol
- Rhaid i geisiadau ddangos gwaith a/neu fuddion ar lefel gymunedol
Ffynonellau tystiolaeth defnyddiol:
- Datganiadau Ardal – Themâu Cymunedau Gwydn:
- De Ddwyrain - Iach Heini Cysylltiedig
- Canol De Cymru – Cysylltu pobl â natur
- De Orllewin – Lleihau anghydraddoldebau iechyd
- Canolbarth – Ailgysylltu pobl a lleoedd
- Gogledd Ddwyrain – Datblygu a gwella seilwaith gwyrdd trefol a gwledig
- Gogledd Orllewin – Ailgysylltu pobl â natur
- Morol – Atebion sy’n seiliedig ar natur ac addasu ar yr arfordir
- Cynlluniau llesiant Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
·Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol
Yr hyn y byddwn yn ei Gefnogi gyda’r Cyllid:
- Amrywiaeth a chynhwysiant, yn enwedig ar gyfer cymunedau llai breintiedig sydd â llai o fynediad at fannau gwyrdd o ansawdd, sy’n aml yn byw mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd uchel a dwysedd poblogaeth uchel a allai gael eu heffeithio’n andwyol gan newid yn yr hinsawdd ac ansawdd aer gwael ac a allai ddefnyddio’r amgylchedd fel ased i ddod â chymunedau gwahanol at ei gilydd, mynd i’r afael ag unigrwydd ac allgau cymdeithasol ac fel modd o ddatblygu sgiliau.
- Ffyrdd creadigol o ailgysylltu pobl â natur a’u hamgylchedd lleol i wella iechyd corfforol a meddyliol, hyder, hunan-barch ac ‘ymddygiadau gwyrdd’.
- Hyrwyddo iechyd a llesiant a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
- Atebion sy’n seiliedig ar natur sy’n helpu cymunedau i deimlo’n fwy diogel.
- Creu mwy o gyfleoedd i gael mynediad at fyd natur.
- Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o, a chyfranogaeth a phrosesau penderfynu ar effeithiau’r hinsawdd ar raddfa gymunedol.
- Gweithio i sicrhau bod gan gymunedau ymdeimlad o gysylltiad a grym gyda’u hamgylchedd lleol a bod ganddynt rôl weithredol o ran sut y caiff ei reoli a’i wella.
- Creu cyfleoedd ar gyfer addysg a chymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion.
Dylech gyfeirio camau’r broses ymgeisio a phob cwestiwn ynglŷn â’r grant at: grants.enquiries(at)cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Caniatewch 48 awr ar gyfer ymateb cychwynnol
Neu ffoniwch ymholiadau cyffredinol CNC ar:0300 065 300