Yr hyn yr ydym yn ei wneud
Deliwn â materion ynni cartrefi, gan gynghori ynghylch camau arbed ynni ymarferol a chyraeddadwy yn y cartref, tynnu sylw at gamau ôl-osod neu helpu’r rhai mewn argyfyngau tanwydd.
Rydym yn gwirio ac yn esbonio datganiadau ynni ac yn cynghori ynghylch dulliau rheoli dyled neu leihau biliau ynni mawrion.
Eiriolwn â chyflenwyr ynni ar ran cleient.
Amcanwn alluogi cleientiaid i reoli eu sefyllfa ynni domestig eu hunain yn y dyfodol.
Pwy sy’n gymwys?
Unrhyw un sy’n byw ym Mhowys sydd â thrafferthion â’u cyflenwadau neu’u biliau ynni domestig.
Sut y gallwn fod o gymorth
Cynigwn achlysuron gwybodaeth dros dro, sgyrsiau â grwpiau bychain, ymgynghoriadau teleffon, a chyfarfodydd wyneb yn wyneb trwy sesiynau galw heibio anffurfiol neu apwyntiadau a drefnwyd. Rydym yn cynnig ymweliadau â chartrefi, hefyd, lle rhoddwn gyngor ynni domestig penodol ar gyfer y safle.
Os oes ar gleient angen eich cymorth â’i gyflenwr ynni, gallwn eiriol ar ei ran, gan amcanu eu galluogi i reoli eu materion ynni eu hunain yn hyderus yn y pen draw.
Rydym yn cyfeirio cleientiaid at sefydliadau eraill, hefyd, os yw eu hanghenion yn ymestyn y
tu hwnt i ynni, a chanlynwn gyfeiriadau gan bartneriaid sy’n rhanddeiliaid. Dyma lle gobeithiwn y bydd gennych chi ran allweddol.
Cyd-destun ein gwaith
Erys tlodi tanwydd yn her feunyddiol i lawer yn y DU, a dengys yr ystadegau diweddaraf fod y broblem ar gynnydd. Mae Severn Wye yn gweithio tuag anghenion dynol sylfaenol cynhesrwydd, iechyd da a chartref diogel nawr, a hyrwyddo effeithlonrwydd ynni ac ynni carbon isel ar gyfer y dyfodol.
Amcanwn wneud cysylltiadau newydd yng nghymunedau Powys gan anelu at ddarparu cyngor rhad ac am ddim, cyfrinachol ynghylch materion ynni domestig, yn ogystal ag agor trywyddion cyfeirio newydd at ragor o gymorth ar gyfer rhagor o bobl.
Ariennir cymorth Eiriolaeth Powys gan y Cynllun Iawndal Ynni hyd Hydref 2024 ac fe’i darparir i gleientiaid yn rhad ac am ddim.
Cydweithio - Gallwch ein helpu trwy:
• wneud lle i ni yn eich mangre, trefnu rhai apwyntiadau â defnyddwyr presennol eich gwasanaethau, a’n galw ni draw i’w gweld nhw
• cyfeirio cleientiaid atom gan ddefnyddio ein ffurflen gyfeirio
webforms.dizions.co.uk/severn_wye_energy_agency/2
Cysylltwch â ni
E-bostiwch y tîm eiriolaeth ar advocate@severnwye.org.uk neu cysylltwch â ni’n
uniongyrchol:
Gogledd Powys
Amanda Harries
amandah@severnwye.org.uk
Symudol: 07778 359857
Canolbarth Powys
Susie Wood
susiew@severnwye.org.uk
Symudol: 07442 465250
De Powys
Kate Lewis
katel@severnwye.org.uk
Symudol: 07442 465250
severnwye.org.uk/project/advocate-powys