Ydych chi’n wirfoddolwr sydd eisiau datblygu eich hunan a’ch sgiliau personol? Rydym yn falch o gynnig rhaglen ddi-dâl 9 wythnos fydd yn eich cefnogi i bellhau eich gyrfa wirfoddoli neu i ddatblygu o fewn eich sefydliad wrth ddysgu am gyfleoedd astudio o fewn Y Brifysgol Agored yng Nghymru. Bydd y rhaglen bellgyrhaeddol hon yn cynnig ystod lawn o weithdai rhyngweithiol sydd wedi eu dylunio er mwyn eich helpu chi a’ch sefydliad i gael y gorau o’ch gwaith gwirfoddoli. Bydd testunau yn cynnwys: llesiant, codi hyder, goresgyn rhwystrau dysgu a datblygu portffolio yn ogystal â sut i fanteisio ar OpenLearn - adnodd am ddim gan y Brifysgol Agored. Bydd y rhaglen yn dechrau gyda gweithdy agoriadol ar-lein ar 23 Mai, a bydd yn rhedeg am wyth wythnos wedi hynny (ar-lein) hyd at 18 Gorffennaf.
Cofrestrwch drwy'r ddolen Tocyn isod:
Elwa drwy wirfoddoli | tocyn.cymru (beta)