Mae’r cylchlythyr diweddaraf ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys ar gael yn awr ar-lein.
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys (BPRh) yn dod ag amrywiaeth o gynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus ynghyd, gan gynnwys y cyngor, y bwrdd iechyd, y trydydd sector, yn ogystal â dinasyddion a gofalwyr, i sicrhau fod pobl yn cydweithio’n well i wella iechyd a lles ar draws Powys.
Mae’n cefnogi ambell i brosiect gwych yn eich cymunedau, megis Cysylltwyr Cymunedol, Gwasanaeth Cyfeillio Powys a Gofalwyr Ifanc.
Rydym yn gobeithio y bydd y cylchlythyron hyn yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth bob tro ar wefan a chyfrif trydar y BPRh – www.powysrpb.org / @powysrpb