Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) yn ariannu Partneriaid Cyflenwi ar draws y Sir i ddarparu cymorth gwirfoddoli lleol i sefydliadau ac unigolion.
Dwedodd Clair Swales, Prif Swyddog Gweithredol, “Mae PAVO yn falch o gyhoeddi mai Ecodyfi fydd ein partner cyflenwi newydd ar gyfer gwirfoddoli yn ardal Machynlleth. Mae’r gwasanaeth yma wedi’i ddarparu ers dros 20 mlynedd gan Weithredu Cymunedol Machynlleth a’r Cylch (CAMAD). Dymunwn ddiolch yn fawr iawn i CAMAD am eu gwaith caled dros y blynyddoedd a gobeithio y bydd yn parhau i fod yn llwyddiannus a chefnogi’r gymuned leol.”
Mae ecodyfi wedi cyflogi Sandra Bendelow i gydlynu'r gwasanaeth hwn. Mae hi eisoes yn adnabod llawer o’r sefydliadau sy’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli, ar ôl gweithio ar y broses cynllunio gymunedol ‘Dyfodol Dyfi’ y llynedd. Datgelodd hyn y byddai rhai grwpiau presennol yn fwy effeithiol pe bai ganddynt fwy o wirfoddolwyr, a hefyd y gellid sefydlu gwasanaethau newydd yn lleol drwy sefydliadau cenedlaethol pe bai pobl leol yn fodlon cymryd rhan.
Dywedodd Rheolwr Ecodyfi, Andy Rowland, ei fod yn falch bod ecodyfi wedi gallu camu i mewn i ddarparu'r gwasanaeth hwn. “Mae gwirfoddoli yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi llesiant pobl, gweithgareddau cymunedol ac iechyd yr amgylchedd, fel y mae gwasanaethau statudol. Ac mae gwirfoddolwyr eu hunain yn aml yn dweud eu bod yn elwa o’r boddhad, y cysylltiadau cymdeithasol a’r dysgu maen nhw’n ei gael.”
Mae croeso i ddarpar wirfoddolwyr a grwpiau defnyddwyr gysylltu â Sandra trwy GwirDyfiVol(at)gmail.com neu rif swyddfa ecodyfi 01654 703965. Mae yna hefyd dudalen facebook o’r enw ‘Gwirfoddoli Dyfi Volunteering’ a gwybodaeth bellach ar www.ecodyfi.cymru/gwybodaeth-gymunedol.