Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf

Fel rhan o becyn cymorth ehangach o dros £50m i fynd i'r afael â phwysau ar gostau byw ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau dros £38 miliwn drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.

Beth yw’r gronfa?

Gall aelwydydd cymwys hawlio taliad untro o £100 gan eu cyngor lleol er mwyn rhoi cymorth tuag at dalu eu biliau tanwydd gaeaf ar y grid. Bydd y taliad ar gael i bob aelwyd cymwys ni waeth sut mae'n talu am ei danwydd ar y grid, boed hynny, er enghraifft, drwy fesurydd talu ymlaen llaw, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter.

Mae'r cynllun ar agor i aelwydydd lle mae un aelod yn cael rhai budd-daliadau penodol.

Bydd ymgeisydd yn bodloni'r amod hwn os bydd yr ymgeisydd (neu bartner yr ymgeisydd) yn cael un o'r budd-daliadau cymhwyso sy'n seiliedig ar brawf modd i bobl oedran gweithio ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod cymhwyso rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.

Y budd-daliadau cymhwyso hyn yw:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Credydau Treth Gwaith

Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod yn gyfrifol am dalu biliau ynni'r eiddo.

Bydd ymgeisydd yn bodloni'r amod hwn os bydd yr ymgeisydd (neu bartner yr ymgeisydd) yn gyfrifol am dalu biliau tanwydd ar y grid i'r darparwr ynni ar gyfer eiddo yng Nghymru ac os mai prif breswylfa'r ymgeisydd yw'r eiddo. Mae'r amod hwn wedi'i fodloni ni waeth a fydd yr ymgeisydd yn talu am danwydd ar y grid drwy fesurydd talu ymlaen llaw, drwy ddebyd uniongyrchol neu drwy dalu bil bob chwarter. Nid yw'r amod hwn wedi'i fodloni os bydd ymgeisydd (neu bartner yr ymgeisydd) yn talu am danwydd oddi ar y grid.

Gall unrhyw un y mae angen cymorth ariannol arno i dalu am danwydd oddi ar y grid (megis olew, nwy petrolewm hylifedig neu glo) ystyried gwneud cais i'r Gronfa Cymorth Dewisol am gymorth.

Bydd cynghorau lleol yn cysylltu ag aelwydydd cymwys i ofyn iddynt wneud cais lle mae modd iddynt nodi y gallent fod yn gymwys i gael y taliad tanwydd gaeaf.

Fodd bynnag, gall unrhyw un sydd o'r farn ei fod yn gymwys ar gyfer y taliad gyflwyno cais drwy wefan ei gyngor lleol o 13 Rhagfyr 2021 ymlaen. Rhaid i bob cais ddod i law cyn dyddiad cau'r cynllun ar 18 Chwefror 2022. Mewn achos ceisiadau llwyddiannus, gwneir y taliadau rhwng mis Ionawr a diwedd mis Mawrth 2022.

Mae Adran Gwaith a Phensiynau a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cadarnhau na fydd y taliad hwn yn effeithio ar fudd-daliadau presennol ymgeiswyr ac na chodir trethi arnynt.

Cymorth Ychwanegol

Y Gronfa Cymorth Dewisol

Os byddwch yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, efallai y byddwch yn gymwys am gymorth drwy'r Gronfa Cymorth Dewisol. Gallwch wneud cais i'r Gronfa hon drwy'r wefan https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf/sut-i-wneud-cais neu drwy radffôn ar 0800 859 5924

Cynllun Cartrefi Clyd

Mae cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd yn rhad ac am ddim ac, os ydych yn gymwys, becyn o welliannau arbed ynni yn rhad ac am ddim i'ch cartref, fel boeler newydd, gwres canolog neu inswleiddiad. Gall hyn leihau eich biliau ynni a bod o fudd i'ch iechyd a'ch llesiant. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch radffôn 0808 808 2244 neu ewch i nyth.llyw.cymru.

Advicelink Cymru

I gael cyngor ar ddyled ac arian ynghyd â gwybodaeth bellach am unrhyw gymorth ariannol arall y gall fod hawl gennych i'w gael, beth am gysylltu ag Advicelink Cymru? Ffoniwch Radffôn 0800 702 2020 (9am i 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener), neu, i gael gwybodaeth a/neu siarad ag un o'r cynghorwyr ar-lein, cliciwch yma

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity