Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim hwn ar ddydd Llun 25 Medi am 10:30am i ddysgu mwy am oblygiadau'r mewnwelediad newydd hwn ac i glywed astudiaethau achos yn cael eu cyflwyno gan aelodau o gymunedau sydd wedi'u nodi fel rhai llai cydnerth ar ôl cael eu sgorio yn erbyn Mynegai Asedau Cymunedol Cymru (WCAI) BCT a Mynegai Cydnerthedd Cymunedol Cymru (WCRI).
Byddwn yn amlinellu’r fethodoleg y tu ôl i’n hymchwil yn ogystal â’n chwe argymhelliad allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a chyllidwyr i helpu i fynd i’r afael â’r heriau penodol sy’n wynebu cymunedau ledled Cymru. Bydd canfyddiadau’r ymchwil hwn yn ei gwneud yn ofynnol i lunwyr l ail-lunio’r ffordd y mae cyllid a gwasanaethau’n cael eu dosbarthu yng Nghymru, yn enwedig mewn perthynas â chymunedau sy’n byw ar gyrion trefi a dinasoedd.
Cofrestrwch eich diddordeb ar Eventbrite – bydd cyfarwyddiadau ar sut i ymuno yn cael eu hanfon ddydd Gwener 22 Medi. https://www.eventbrite.co.uk/e/research-launch-wales-community-assets-index-tickets-686549376667?utm-campaign=social&utm-content=attendeeshare&utm-medium=discovery&utm-term=listing&utm-source=wsa&aff=ebdsshwebmobile
Ar ôl y digwyddiad, bydd papurau ymchwil ar gael ar ein gwefan yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ewch i www.bct.wales i gael rhagor o wybodaeth.