Cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol PAVO Carl Cooper yn gadael PAVO

Cyhoeddwyd heddiw y bydd ein prif weithredwr, Carl Cooper, yn gadael PAVO ar 16 Hydref i ymgymryd â rôl newydd fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

[Translate to Welsh:]

[Translate to Welsh:]

Mae Carl wedi bod yn brif swyddog i ni ers dros 14 mlynedd, a bydd ei ymadawiad yn amlwg yn newid sylweddol i ni, ein haelodau, partneriaid a rhanddeiliaid. Rhagwelodd a rheolodd Carl newid sylweddol trwy gydol ei gyfnod yn PAVO, gan adael etifeddiaeth wych ar ei ôl. Mae ei ymroddiad a'i arweiniad wedi gwneud y sefydliad yr hyn ydyw heddiw. Diolch iddo ar ran y sefydliad cyfan a dymunwn yn dda iddo yn ei rôl newydd.

Fel cadeirydd PAVO, mae’n fraint cael gweithio gyda chyd-ymddiriedolwyr medrus a phrofiadol, ynghyd â’n gweithlu diwyd ac ymroddedig. Rwy’n gwbl ffyddiog y bydd PAVO yn rheoli’r trawsnewid hwn yn esmwyth ac yn broffesiynol er mwyn inni barhau i ddarparu’r ansawdd a safon uchel y gwasanaeth rydym wedi ymrwymo iddo.

I ddechrau, rydym yn gweithredu proses recriwtio fewnol ar gyfer Prif Weithredwr interim cyn proses allanol a fydd yn recriwtio i swydd barhaol o fis Ebrill 2023. Bydd y Prif Weithredwr interim yn ymgymryd â'i g/chyfrifoldebau newydd o 17 Hydref. Byddwn, wrth gwrs, yn eich hysbysu am yr holl newidiadau wrth iddynt ddatblygu.

 

Jamie Burt

Cadeirydd PAVO Chair

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity