Ar gyfer pwy mae'r cyllid?
Gall mudiad gwirfoddol a chymunedol corfforedig neu gyngor cymuned neu dre wneud cais. Gall hyn gynnwys sefydliadau corfforedig elusennol, cwmnïau cydweithredol gan gynnwys cymdeithasau budd cymunedol neu gwmnïau dielw cyfyngedig trwy warant.
Beth ydy ased gymunedol?
Gall ased gymunedol fod yn unrhyw adeilad neu dir a ddefnyddir ar gyfer lles neu ddiddordeb cymdeithasol y gymuned leol, gan gynnwys mannau gwyrdd, llyfrgelloedd, mannau diwylliannol, cyfleusterau hamdden, canolfannau cymunedol, tafarndai a mwy. Mae'n rhaid i'r ased fod mewn perygl o gau, cael ei werthu neu mewn cyflwr gwael heb gyfranogiad y gymuned, a pharhau i fod o fudd cymunedol yn y dyfodol.
Y cyllid sydd ar gael.
Gellir gwneud cais am hyd at £250,000 i brynu neu brydlesu ased a thalu am gostau adnewyddu. Mewn achosion eithriadol, mae hyd at £2m ar gael gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gyfer pob math o asedau lle mae’r ased mewn perygl o gael ei golli. Mae’n rhaid i ymgeisydd gyfrannu 20% o gyllid ‘cyfatebol’ tuag at gyfanswm y cyfalaf sydd ei angen – gall ffynonellau gynnwys grantiau, benthyciadau a ffynonellau sydd ddim yn arian parod (mewn da).
Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cael ei gynnig gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’i darparu gan 10 sefydliad yn y DU, a arweinir yng Nghymru gan CYD Cymru. I wneud ymholiadau, darganfod mwy neu ymuno â gweminar gwybodaeth, ewch i https://dtawales.org.uk/cy/
Gwnewch eich ymholiadau a'ch cais drwy: https://mycommunity.org.uk/y-gronfa-perchnogaeth-gymunedol
I gofrestru am y gweminar yn y Gymraeg - ar sut i wneud cais am yr arian - mae am 2yp ar y 14eg o Fedi cofrestrwch yma: https://mycommunity.org.uk/how-to-write-a-strong-community-ownership-fund-application-webinar
Mae’r ffurflen yn Saesneg ar hyn o bryd.
https://locality.tfaforms.net/149?EventID=a2W8V000003f7LN
Diolch i chi am eich sylw
Yn gywir
Arfon Hughes