Nod Cronfa Datblygu’r Fforwm Gwerth Cymdeithasol yw cyllido gwasanaethau a gweithgareddau ataliol y sector gwerth cymdeithasol, boed yn rhai newydd neu er mwyn ymestyn eraill, sy’n llenwi ac yn pontio bylchau mewn darpariaeth gyfredol sy’n gwella llesiant meddyliol a chorfforol, yn helpu unigolion i fyw bywyd annibynnol, gyda’r nod o leihau’r angen ar gyfer ymyriadau lefel uwch. Mae’r cyllid ar gael trwy Fforwm Gwerth Cymdeithasol gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Powys.
- Cyfanswm gwerth y gronfa yw tua £40,000; ni osodwyd unrhyw gyfyngiadau ar y swm y gellir gwneud cais amdano, oherwydd bydd y panel yn gwneud eu penderfyniadau ar sail defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael
- Mae’r gronfa ar gael ar gyfer costau refeniw’n unig.
- Mae’n rhaid gwario’r cyllid erbyn 31ain Mawrth 2023
- Diben y cyllid yw ysgogi gwasanaeth newydd neu estynedig; mae angen i geisiadau nodi’r glir sut y bydd y gwasanaeth/gweithgaredd yn parhau ar ôl 31ain Mawrth 2023
- Fel rhan o’r cyllid, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael y cyfle i weithio gyda Swyddog Cynnig Rhagweithiol PAVO.
- Bydd pob ymgeisydd, boed yn llwyddiannus neu fel arall, yn cael y cyfle i dderbyn cefnogaeth gan Swyddog Datblygu PAVO.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 5yp Dydd Mercher 31ain Awst 2022
Blaenoriaethau
Nodwyd y bylchau canlynol gan Gysylltwyr Cymunedol PAVO a chaiff Gwasanaethau Statudol eu blaenoriaethu, ond nid ydynt yn gyfyngedig i:
- Darparu Cynlluniau Cymdogion Da yn cynnig cymorth ymarferol lefel isel i bobl. (Anogir cydweithrediad â menter bancio amser Amser i Ni)
- Cryfhau’r ddarpariaeth trafnidiaeth gymunedol, gyda ffocws arbennig ar drafnidiaeth i bobl ifanc a phobl sy’n byw ag anableddau.
- Darparu cynlluniau cyfeillion i bobl ifanc.
- Uchafu ac annog darpariaeth rhwng cenedlaethau lle bo'n briodol.