Yn gyntaf, diolch am wirfoddoli yma ym Mhowys – tmae hwn yn gyfnod anodd a digynsail, ond trwy weithio gyda’n gilydd gallwn ddod trwyddi a sicrhau ein bod yn gwarchod pobl rhag risg, salwch a marwolaeth bosibl. Lluniwyd y ddogfen ganllaw hon i helpu gwirfoddolwyr sydd wedi cofrestru ar Gofrestr Gwirfoddoli PAVO ond mae yma wybodaeth ddefnyddiol i bawb sy’n gwirfoddoli neu’r rhai sy’n helpu ffrindiau a chymdogion.