Bwrdd Iechyd yn gofyn i gyflogwyr Powys gefnogi staff i gael y brechlyn COVID

Mae'r wythnos hon wedi gweld nifer digynsail o bobl yn derbyn eu brechlynnau COVID ym Mhowys.

Yn dilyn 12 mis o ddarpariaeth gynyddol, mae'r bwrdd iechyd yn ceisio cael pob un person cymwys ym Mhowys i dderbyn eu brechiadau erbyn y flwyddyn newydd.

I helpu gyda hyn rydym yn gofyn i gyflogwyr ledled y sir i annog eu staff i gael y brechlyn a’u cefnogi nhw trwy gynnig amser i ffwrdd o’r gwaith lle bo’n briodol i fynychu canolfan frechu.

Mae eu hannog i gael eu brechu er eich budd chi yn ogystal â bod yn fuddiol iawn iddyn nhw. Gall caniatáu ychydig o amser i'ch staff i ffwrdd o’r gwaith er mwyn cael y brechlyn, arbed llawer o amser o'i gymharu ag amser i ffwrdd o'r gwaith yn sâl.

Rydym yn cynnal clinigau brechu ychwanegol ac rydym bellach ar agor saith diwrnod yr wythnos, a gall pobl drefnu eu hapwyntiadau eu hunain ar-lein drwy ein gwefan https://biap.gig.cymru/

Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau rhag Covid-19. Dyma'r ffordd orau o'ch diogelu eich hun a'r rhai o'ch cwmpas rhag y feirws. Ymunwch â’r miliynau o bobl sydd wedi cael eu brechu yn barod.

Dyma’r rhaglen frechu fwyaf yn hanes y GIG ac mae wedi achub miloedd o fywydau yn barod.

Mae’r bobl sydd wedi cael y brechlyn yn llai tebygol o brofi symptomau Covid-19. Maen nhw hyd yn oed yn fwy annhebygol o fynd yn sâl iawn, o fynd i'r ysbyty neu i farw ohono. Mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod pobl sydd wedi'u brechu hefyd yn llai tebygol o drosglwyddo'r feirws i eraill.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity