Argyfwng costau byw a mannau cynnes.

Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu a gyda’r gaeaf ar ein gwarthaf, mae Cyngor Sir Powys yn bwriadu gwneud popeth y gall i helpu trigolion yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Ond bydd y cyngor yn gofyn am help a chefnogaeth ei bartneriaid yn ogystal â grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob cwr o’r sir i gydweithio i helpu unigolion a theuluoedd sy’n agored i niwed trwy’r argyfwng costau byw.

Mae’r cyngor yn ystyried darparu rhwydwaith o fannau cynnes i helpu unrhyw un sy’n cael trafferthion gyda chostau byw dros y gaeaf.  Rydym yn awyddus i weithio gydag unrhyw grŵp cymunedol neu sefydliad fyddai’n gallu cynnig mannau cynnes o fewn y gymuned.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar gyfer Powys Decach, “Mae’r argyfwng costau byw sy’n wynebu’r DU yn rhoi pwysau aruthrol ar bobl a fydd yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar bryd a beth i’w fwyta, beth i’w wneud mewn bywyd a phryd y byddant yn gallu fforddio i wresogi eu cartrefi.

“Rydym am wneud mwy i helpu trigolion Powys dros y misoedd oer, ond ni allwn ei wneud ar ein pen ein hunain.

“Rydym yn awyddus i weithio gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau gan adeiladu ar y gwaith gwych a wnaed dros y pandemig, i greu rhwydwaith o fannau cynnes lle bydd pobl yn gallu dod at ei gilydd, cadw’n gynnes a mwynhau ychydig o gwmni a lluniaeth poeth.

“Os oes unrhyw sefydliad neu grŵp cymunedol yn gallu darparu lle cynnes dros y gaeaf, rydym am glywed gennych.  Byddech yn gwneud gwahaniaeth mawr i’n cymunedau ac yn helpu trigolion dros yr argyfwng hwn.”

Mae modd i grwpiau neu sefydliadau sy’n fodlon cynnig lle cynnes dros y gaeaf, lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb trwy fynd i: https://cy.powys.gov.uk/article/13235/Creu-Mannau-Cynnes-i-Bowys

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity