Allech chi fod yn Gadeirydd neu Is-Gadeirydd newydd Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian (PRC) ?

Maer PRC yn dymuno penodi Cadeirydd newydd i symud y sefydliad cymunedol pwysig hwn yn ei flaen. Rydym yn chwilio am Gadeirydd newydd i ddarparu ysbrydoliaeth, arweinyddiaeth, arweiniad strategol, a sicrhau llywodraethu effeithiol or bartneriaeth.

Nifer y cyfarfodydd y flwyddyn/ymrwymiad amser:
• 3 x Cyfarfod Partneriaeth y flwyddyn, 1 x Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
• Cynrychiolaeth ad hoc o PRC mewn digwyddiadau a phresenoldeb mewn digwyddiadau/cyfarfodydd eraill yn unol â chais y Bartneriaeth neur Swyddog Rheilffyrdd.
• Disgwylir cyswllt personol ac electronig rheolaidd gydar Swyddog Rheilffyrdd.
• Mae cyfarfodydd PRC a CCB fel arfer yn gyfarfodydd boreol ar-lein.
Maer PRC yn chwilio am unigolyn sydd â sgiliau arweinyddiaeth uwch a datblygu strategol profedig. Gyda sgiliau cyfathrebu da, profiad llywodraethu, a rhywun sy’n medru datblygu perthynasau’n dda. Yn ddelfrydol, maent yn chwilio am rhywun sydd âr gallu i herior sefydliad i fod yn fwy beiddgar, yn fwy ac yn well.

Am sgwrs anffurfiol am y rôl neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
volunteering@pavo.org.uk neu ffoniwch: 01597 822191

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity