Ydych chi'n rhywun sy'n:
- Trin pobl ag urddas a pharch
- Eisiau dysgu sgiliau newydd a chael profiad gwerthfawr
- Yn hoffi gweithio gyda phobl a'u cynnwys
- Yn dymuno gwneud Cymru y gorau y gall fod
Os felly, beth am ystyried ymuno â'n Bwrdd.
Ein nod yw sicrhau bod ein Bwrdd yn cynrychioli amrywiaeth a diwylliant Cymru.
Diddordeb?
Gweler mwy o wybodaeth:
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 08 Medi 16:00
Bydd ein Cadeirydd, Mick Giannasi yn cynnal 2 sesiwn friffio cyn y dyddiad cau i roi trosolwg o Gofal Cymdeithasol Cymru ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych amdanom. Bydd hefyd yn rhoi trosolwg o’r broses penodiadau cyhoeddus i’r rhai sy’n llai cyfarwydd â’r broses.
Sesiynau briffio:
Dydd Iau 31 Awst 7pm – 8pm
Dydd Llun 4 Medi 7pm – 8pm
Os hoffech fynychu’r sesiwn friffio anfonwch e-bost at llinos.bradbury(at)gofalcymdeithasol.cymru gyda’ch dyddiad sesiwn dewisol.