Adnodd Newydd - Taflen Cymorth Iechyd Meddwl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ‘Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun’

Mae Taflen Iechyd Meddwl Gwasanaeth Ambiwlans Cymru o’r enw ‘Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun’, bellach ar gael, gan roi ystod o Llinellau Cymorth Iechyd Meddwl. P'un a ydych chi'n poeni am rywun rydych chi'n ei adnabod neu'n gweithio gyda chi, eich hun neu rywun annwyl, gall y llinellau cymorth a'r gwefannau hyn gynnig cyngor arbenigol.

Dilynwch y dolenni ar gyfer:

Taflen Gymraeg <https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/pdfs/mentalhealthwel.pdf> a Thaflen Saesneg <https://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/pdfs/mentalhealtheng.pdf>

Daeth y syniad o ymgysylltu â phobl sy'n profi anghenion iechyd meddwl gan ein Tîm Profiad y Claf a Chynnwys y Gymuned Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae hyn bellach wedi'i greu mewn partneriaeth âInterlink RCT <http://www.interlinkrct.org.uk/> a Voluntary Action Merthyr Tydfil <http://www.vamt.net/index.php> a'u Cynrychiolwyr Defnyddwyr Gwasanaeth o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Gyda'n Gilydd ar gyfer Bwrdd Partneriaeth Iechyd Meddwl. Mae'r daflen newydd yn cynnwys rhestr o Llinellau Cymorth Cenedlaethol sydd wedi'u hen sefydlu, sy'n nodi a ydyn nhw am ddim ac ar gael 24/7 (neu gyda therfynau perthnasol i hyn).

Mae’r daflen ‘Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun’ - sydd ar gael i’w lawr lwytho o Wefannau Galw Iechyd Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru - bellach yn cael ei hanfon yn electronig at bob Asiantaeth Bartner, felly cylchredwch yn eang i'ch holl rwydweithiau. Hefyd wedi'i becynnu'n barod i'w ddanfon i bob gorsaf ambiwlans ledled Cymru ac yn barod i'w ddosbarthu mewn digwyddiadau cymunedol fel rhan o waith Cynnwys Cymunedau parhaus Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, mae i Griwiau Ambiwlans allu rhoi i gleifion yn ôl yr angen, gan gyfeirio pobl at gefnogaeth i'w hanghenion iechyd meddwl.

Gobeithiwn y bydd yn adnodd gwerthfawr ac yn ffynhonnell gefnogaeth,

Os ydych am roi unrhyw adborth am y daflen, cysylltwch â ni:

Tîm Profiad y Claf a Chynnwys y Gymuned

Ffôn: 01792 311773

E-bost: Peci.team@wales.nhs.uk

Ewch i'r dudalen Cymryd Rhan ar ein gwefan www.ambulance.nhs.uk 

Twitter: @WelshAmbPIH

Where to find us

Llandrindod Wells Office

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod Wells
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Newtown Office

Plas Dolerw
Milford Road
Newtown
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Get in touch

Authentication

Trusted Charity