Daeth plant ysgolion cynradd at ei gilydd yr wythnos yma (dydd Mawrth, 26 Mehefin) i siarad am faterion sydd o bwys iddyn nhw.
Cynhaliwyd y digwyddiad 'Dweud eich Dweud' ym Mhlas Gregynog ger Y Drenewydd gyda phobl ifanc rhwng wyth ac un ar ddeg oed yn mynychu. Daeth plant o dros 80 o ysgolion cynradd yng ngogledd Powys i fynegi barn ar faterion megis iechyd, yr amgylchedd, diogelwch a dysgu.
Ymunodd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys â Chabinet Cyngor Sir Powys yn y digwyddiad i ddangos eu hymrwymiad i hawliau pobl ifanc wrth i'r cabinet lofnodi'r 'Siarter Cyfranogiad Cenedlaethol'.
Soniodd disgyblion Lillie Morris ac Annabel Quance o Ysgol Bro Cynllaith, Llansilin am beth oedden nhw'n ei feddwl o'r Diwrnod Dweud eich Dweud. Dywedodd Lillie: "Rôn i'n ei gweld hi'n ddefnyddiol i ddeall mwy am fwyta'n iach ac yfed digon o ddŵr."
Dywedodd Annabel: "Roedd yr ysgol goedwig yn ddifyr oherwydd i ni gael cyfle i siarad am yr hyn rydym yn ei fwynhau a gwneud ffrâm rewi a sefyll yn stond. Hefyd dysgon ni am bwysigrwydd peidio â thaflu ysbwriel yn y wlad a glanhau ar ôl eich ci!"
Dywedodd y Cynghorydd Rachel Powell, Aelod y Cabinet ar faterion Pobl Ifanc a Diwylliant: "Roedd hi'n fendigedig gweld cymaint o bobl ifanc yn dod at ei gilydd i drafod yr hyn sy'n bwysig iddyn nhw.
"Mae'n dda o beth ein bod yn manteisio ar y cyfle yma i lofnodi'r Siarter Cyfranogiad Cenedlaethol fel Cabinet, gyda phobl ifanc a'n partneriaid yn bresennol. Mae hwn yn rhan o'n hymrwymiad corfforaethol i sicrhau ein bod yn flaengar yn y ffordd rydym yn cynnwys plant a phobl ifanc yn y gwasanaethau sy'n effeithio arnyn nhw.
"Mae'r Siarter yn rhan o'n hymrwymiad i fabwysiadu dulliau o weithio sy'n seiliedig ar hawliau plant. Roedd hi'n bleser cwrdd â phobl ifanc yn y Diwrnod Dweud eich Dweud. Rhaid i ni fod yn greadigol ynghylch sut rydym yn cynnwys pobl ifanc a rhoi gwerth ar eu barn i'n helpu i lunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Cyfarwyddwraig Weithredol Nyrsio a chyd-gadeirydd partneriaeth 'Dechrau'n Dda' Powys, Rhiannon Beaumont-Wood: "Rhaid i ni sicrhau bod llais plant a phobl ifanc yn llywio penderfyniadau sy'n cael effaith arnyn nhw nawr ac yn y dyfodol. Byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod hyn yn digwydd yn ein gwaith beunyddiol trwy ein Rhaglen Dechrau'n Dda a'n Strategaeth Iechyd a Gofal. Rhaid i ni gynnwys pobl ifanc yn ein gwasanaethau, ac ymrwymo i arwyddair y bobl hynny yn ein cymunedau "dim byd amdanon ni hebddon ni!"
Dywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys: "Mae popeth rydym yn ei wybod yn dangos pan mae pobl yn cymryd rhan lawn yn y penderfyniadau am bethau sydd o bwys iddyn nhw mae'n arwain at welliannau mwy a chynt. Mae hyn yr un mor bwysig i blant a phobl ifanc ag y mae i garfannau oedran eraill. Rwyf wrth fy modd ein bod yn rhoi'r egwyddor hwn ar waith ym Mhowys trwy gynnal dyddiau 'Dweud eich Dweud' ac mewn dulliau eraill."
Cynhaliwyd y Diwrnod Dweud eich Dweud ar ran Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys a Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Powys. Hefyd cafwyd cefnogaeth gan ysgolion ac ymarferwyr ar draws y Cyngor, y Bwrdd Iechyd, PAVO, Cais - y gwasanaeth cymorth camddefnyddio sylweddau, a'r asiantaeth i ofalwyr ifanc, Credu.