Cynrychiolwyr Trydydd Sector a Dinasyddion

Cyfle i ddweud eich dweud - a chyfrannu at bartneriaethau sy'n cynrychioli ein sector neu brofiadau'r sawl sy'n defnyddio gwasanaethau.

Mae gan lawer o grwpiau cynllunio strategol Powys (yn enwedig y sawl sy'n ymwneud â maes iechyd a gofal cymdeithasol) gynrychiolwyr trydydd sector neu ddinasyddion ymhlith eu haelodaeth; ac mae PAVO yn cefnogi'r unigolion hyn i gyflawni'r rôl hon.

Pam bod angen cynrychiolwyr?

  • Er mwyn i sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol, defnyddwyr gwasanaethau a Gofalwyr allu cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau yn y partneriaethau
  • Meithrin cysylltiadau gweithio cadarn gyda phartneriaid.

Beth mae’r cynrychiolwyr yn ei wneud?

  • Byddwch yn aelod o bartneriaeth neu weithgor – fel arfer ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu sirol.
  • Bydd gan y bartneriaeth neu weithgor Gylch Gorchwyl: sef nodau clir o ran yr hyn y bydd yn ei wneud, pa mor aml bydd yn cwrdd, ac ai partneriaeth barhaus yw neu a fydd yn bodoli am gyfnod penodol yn unig.
  • Bydd angen ichi allu mynychu cyfarfodydd yn rheolaidd.
  • Byddwch yn aelod ar ran y trydydd sector neu ddefnyddwyr gwasanaethau ym Mhowys, nid yn unig eich sefydliad neu’ch grŵp unigol, ond i ddefnyddio eich profiad a’ch gwybodaeth o’ch gwaith eich hun. Yn aml, byddwch hefyd yn aelod o rwydwaith neu fforwm.
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd ac yn helpu datblygu cynllunio ar ran trydydd sector Powys (yn hytrach na cheisio hyrwyddo eich sefydliad neu’ch grŵp eich hunan).
  • Bydd angen ichi fod yn barod i adrodd nôl ar faterion o ddiddordeb (mae PAVO ar gael i’ch cefnogi yn hyn o beth).

Awydd bod yn gynrychiolydd??

I ddysgu mwy am rôl cynrychiolwyr ac unrhyw gyfleoedd cyfredol sydd ar gael, cysylltwch â ni.

Mae PAVO yn dilyn trefn deg, agored a chlir er mwyn cael hyd i a dethol cynrychiolwyr.  Weithiau bydd gan bartneriaeth ddyletswydd benodol sy’n olrhain sut y dylid penodi cynrychiolwyr, fodd bynnag, lle bo’n bosib mae PAVO yn dilyn y drefn isod:

  • Trwy drafod gyda phartneriaid, cytunir ar nifer y cynrychiolwyr.
  • Trwy drafod gyda phartneriaid, caiff Cylch Gorchwyl drafft y bartneriaeth ei lunio (I’w gytuno gan y bartneriaeth yn y cyfarfod cyntaf).
  • Trwy drafod gyda phartneriaid, cytunir amlinelliad o brofiad/gwybodaeth a rôl a chyfrifoldebau’r cynrychiolwyr.
  • Cyhoeddir Cylch Gorchwyl draft a rôl a chyfrifoldebau’r cynrychiolwyr i’r trydydd sector, i wahodd awgrymiadau/ceisiadau i fod yn gynrychiolydd.
  • Gofynnir i enwebedigion annibynnol gefnogi cais.
  • Hefyd gellir cynnal cyfarfodydd gyda grwpiau neu rwydweithiau perthnasol y trydydd sector i geisio cynrychiolwyr.
  • Os derbynnir mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddant yn dod gerbron panel ar gyfer proses dethol (gan sgorio yn erbyn meini prawf penodol).Wedyn cyhoeddir enwau a’r sefydliadau/grwpiau’r cynrychiolwyr a ddewisir.
  • Caiff enwau’r cynrychiolwyr a manylion cyswllt eu hyrwyddo ymhlith y trydydd sector i alluogi rôl y cynrychiolydd. Mae PAVO yn parhau i gefnogi cynrychiolwyr o ran eu rôl a chyfrifoldebau trwy gydol yr amser a gytunir pan fydd cynrychiolydd yn aelod o bartneriaeth.
  • Pan ddaw amser cynrychiolydd ar y bartneriaeth i ben, defnyddir y broses uchod i recriwtio a phenodi cynrychiolydd. Os bydd cynrychiolydd yn gadael partneriaeth, defnyddir yr un broses i lenwi’r lle gwag hwnnw.

Rydym am ddefnyddio trefn deg, agored a chlir er mwyn dod o hyd i a dethol cynrychiolwyr.

Dyma’n ffordd o weithio:

  1. Wrth drafod gyda phartneriaid, cytunir ar nifer y cynrychiolwyr. 
  2. Wrth drafod gyda phartneriaid, caiff Cylch Gorchwyl drafft ei lunio ar gyfer y bartneriaeth (i’w gytuno yng nghyfarfod cyntaf y bartneriaeth).
  3. Wrth drafod gyda phartneriaid, cytunir ar amlinelliad o brofiad/gwybodaeth a rôl a chyfrifoldebau’r cynrychiolydd.
  4. Wedyn caiff y Cylch Gorchwyl drafft a rôl a chyfrifoldebau’r cynrychiolydd eu hysbysebu i’r trydydd sector, gan wahodd awgrymiadau/ceisiadau i fod yn gynrychiolydd.
  5. Gofynnir i enwebeion annibynol gefnogi cais.
  6. Hefyd gellir cynnal cyfarfodydd gyda grwpiau neu rwydweithiau perthnasol y trydydd sector i geisio cynrychiolwyr.
  7. Os derbynnir mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddant yn dod gerbron panel o aelodau Bwrdd PAVO ar gyfer proses dethol (i’w sgorio yn erbyn meini prawf penodol).  
  8. Cyhoeddir enwau a sefydliadau/grwpiau’r cynrychiolwyr sy’n cael eu dewis.
  9. Caiff enwau a manylion cyswllt y cynrychiolwyr eu hyrwyddo ymhlith y trydydd sector i alluogi’r cynrychiolydd i gyflawni ei rôl.
  10. Mae PAVO yn parhau i gefnogi’r cynrychiolwyr o ran eu rôl a chyfrifoldebau trwy gydol y cyfnod y bydd cynrychiolydd yn aelod o’r bartneriaeth.
  11. Pan ddaw cyfnod y cynrychiolydd ar y bartneriath i ben, bydd y broses o ddethol cynrychiolydd yn cychwyn eto (gan ail adrodd camau 1 - 8). Os bydd cynrychiolydd yn gadael y bartneriaeth (yn ymddiswyddo), cynhelir y broses eto o gamau 1 – 8 eto i lenwi’r lle.

Cefnogi Cynrychiolwyr

Mae PAVO yn cynnig cefnogaeth amrywiol i bobl sy’n gweithredu fel cynrychiolwyr trydydd sector a dinasyddion ar bartneriaethau cenedlaethol a lleol Powys.

Hyfforddiant Anwytho ar gyfer Cynrychiolwyr

  • Sut mae Partneriaethau ym Mhowys yn gweithio a sut y gellir cynrychioli’r trydydd sector yn effeithiol
  • Cefndir a hanes y bartneriaeth dan sylw
  • Beth sy’n gwneud i bartneriaeth effeithiol lwyddo
  • Beth yw ystyr cynrychiolaeth, a sut mae bod yn gynrychiolydd da

Mae cefnogaeth PAVO hefyd yn cynnwys:

  • Cynnal bas data cyfredol ar y rhwydwaith neu fforwm rydych yn ei gynrychioli
  • Anfon gwybodaeth allan i’r rhwydwaith neu fforwm dan sylw ar eich rhan
  • Casglu gwybodaeth/adborth gan eich rhwydwaith neu fforwm ar eich rhan
  • Darparu sesiynau briffio ymlaen llaw ac ar ôl cyfarfodydd partneriaeth
  • Bod ar gael i drafod materion wrth iddynt godi
  • Galluogi rhwydweithio gydag eraill a rhannu arfer da o fewn Powys ar lefel genedlaethol
  • Cymorth gyda threuliau os oes angen (teithio/gofal)
  • Defnydd o liniadur neu lechen os oes angen

Straeon Cynrychiolwyr

Owen Judd

Rwyf yn byw yn Ystradgynlais ac wedi gofalu am fy ngwraig, ynghyd ag aelodau eraill y teulu ar adegau gwahanol, ers rhyw ddeng mlynedd ar hugain, ac mae gen i brofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a/neu wasanaethau gofal cymdeithasol yn ogystal â sefydliadau trydydd sector ym Mhowys, sy’n golygu y gallaf ddefnyddio fy mhrofiad ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys. Doeddwn I ddim yn sylweddoli taw ‘gofalwr’ oeddwn tan ryw ddeuddeg mlynedd yn ôl, a’r adeg honno y cofrestrais a dechrau derbyn y gefnogaeth hynod werthfawr oedd yn golygu fy mod yn gallu ymdopi’n llawer gwell a pharhau i gynnig gofal.

Rwyf yn gysylltiedig â llawer o grwpiau iechyd, iechyd meddwl a chymdeithasol yn y trydydd sector, gan gynnwys Gwasanaeth Gofalwyr Powys (Credu erbyn hyn) ac rwyf yn cefnogi grŵp gofalwyr lleol, i sicrhau y caiff ein lleisiau eu clywed gan wasanaethau eraill, gan ledu’r gair bod llawer o gefnogaeth ar gael i ofalwyr, annog gofalwyr i gyfrannu a sicrhau y defnyddir adnoddau ar gyfer gofalwyr.

Trwy ddefnyddio’r rhwydweithiau hyn, ynghyd â bore coffi rheolaidd a gynhelir, cynigir potensial i gyrraedd pobl newydd. Rwyf yn unigolyn brwdfrydig ac ymrwymedig, a theimlaf y gallaf ddefnyddio fy sgiliau cyfranogi a dylanwadu i’r rôl fel cynrychiolydd ar Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys.

Maggie Sims

Rwyf mewn parchedig ofn braidd i fod yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys. Rwyf yn hoffi gweithio fel aelod o dîm ac yn mwynhau clywed syniadau pobl eraill. Gobeithio y bydd rhai o’m profiadau yn y gorffennol yn ddefnyddiol, ac y gallaf gyfrannu at waith y Bwrdd.

Ar hyn o bryd rwyf yn aelod o Fwrdd Partneriaeth Pobl Hyn, ac yn Gadeirydd Cyfeillion Ysbyty a Chymuned Bronllys, sy’n golygu fod fy mod i ddod i gysylltiad â chleifion ar y ward ac yn yr Ysbyty Dydd. Rwyf yn gweld yr anghenion sydd ganddynt, a’r amser mae rhai ohonynt yn treulio yn yr ysbyty yn disgwyl pecyn gofal neu gerbyd neu gartref nyrsio. Mae’r sefyllfa’n gwella, ond mae pellter i deithio eto. Rwyf yn credu’n daer mewn cael llety addas ar gyfer yr henoed – i lawer, eu cyrff sy’n eu methu, ond mae’r meddwl yr un mor weithgar ac yn gallu gofalu am eu hunain. Y cwbl sydd ei angen yw ychydig mwy o gymorth neu wybod bod rhywun o gwmpas i helpu. Mae angen gofal arbenigol ar y sawl sydd â dementia, felly hefyd pobl o bob oed gyda phroblemau iechyd meddwl. Eto yn fy marn I, mae’r gwasanaeth hwn yn gwella.

Mae rhai o’m profiadau, yn y gorffennol a rhai presennol, wedi dylanwadu ar fy marn am ofal yn ein cymunedau. Mae fy nghefndir ym myd dysgu - yr 20 mlynedd olaf mewn ysgol ar ystâd cyngor anodd, ac mae gennyf atgofion melys am y bobl oedd yn byw yno. Am ran o’r wythnos ar un adeg, roeddwn hefyd yn treulio amser gyda phlant ag anghenion arbennig, ac fel Dirprwy Bennaeth, fi oedd y Swyddog Diogelu Plant. Rodd hyn yn golygu fy mod yn cael cysylltiad gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’r heddlu. Roedd rhai o’r problemau’n ddigon i dorri’r galon. Yn ystod fy mlwyddyn olaf fel athrawes, sefais fel cynghorydd ym Mwrdeistref Harrow yn Llundain....ac ennill y sedd. Yn ystod fy nghyfnod fel cynghorydd, des ar draws pobl ddigartref a’r amddifad, unigolion mewn sefyllfa dorcalonnus.

Ar ôl ymddeol, roeddwn yn gallu dechrau gweithio ar bwyllgorau. Fi oedd cynrychiolydd y cyngor ar Gymdeithas Wirfoddol Harrow. Yn fuan iawn, cefais fy synnu at gynifer y sefydliadau gwirfoddol oedd yn bodoli, a sylweddolais y byddai cymdeithas yn chwalu hebddynt. Mae’n amhosib gweithio allan gwerth eu gwaith a’r cyfraniad maent yn ei wneud. Roeddwn yn aelod o Bwyllgor Adolygu Gwasanaethau Cymdeithasol. Sylweddolais werth gofalwyr di-dâl yn y cartref, a chyn lleied roeddem yn ystyried eu hanghenion nhw. O dro i dro byddem yn cynnal digwyddiad ar gyfer gofalwyr ifainc. Roeddem yn awyddus iddyn nhw wybod ein bod yn eu gwerthfawrogi ond nid oed dyn bosib gwneud hyn mor aml ag y byddem yn gallu, oherwydd roedd yn rhaid trefnu cymorth ar gyfer y bobl roeddynt yn gofalu amdanynt. Rwyf yn dal i barchu’r unigolion yma. Doedden nhw ddim yn cwyno. Byddai llawer ohonynt yn codi’n gynnar, yn gweithio’n galed, yn mynd i’r ysgol ac wedyn ar ôl cyrraedd adref, yn mynd yn ôl i’r rôl gofal. Hefyd roedd rhai yn gofalu am frodyr a/neu chwiorydd iau. Mae’n rhaid bod eu gwaith ysgol wedi dioddef, ac roedd yn rhaid i’r mwyafrif gael amser i ffwrdd o’r ysgol. Roedd rhai o’r gofalwyr yma’n ifanc iawn, ond gyda phen aeddfed ar eu hysgwyddau. Rwyf yn sicr bod llawer mwy o ofalwyr yn bodoli nag yr oeddem yn ymwybodol ohonynt. Mae’n rhaid inni sicrhau fod ein gofalwyr yn derbyn cymorth priodol, ac nid ydynt yn dioddef o salwch neu iselder.

Gobeithio y bydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity