Y Bartneriaeth Pobl Hŷn sy’n gyfrifol am ddatblygu gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i atgyfnerthu a thrawsnewid gwasanaethau pobl hŷn ym Mhowys a amlinellir yn y Strategaeth Iechyd a Gofal . Yn benodol:
- Byddwn yn cefnogi pobl hŷn i fod mor egnïol â phosib trwy wirfoddoli, ymarfer corfforol a meddyliol.
- Byddwn yn annog pobl i gynllunio ar gyfer y dyfodol, a gweithredu er mwyn lleihau nifer a dilyniant cyflyrau sy’n byrhau bywyd megis dementia.
- Byddwn yn cefnogi amrediad o opsiynau llety a mynediad atynt ar gyfer pobl wrth iddynt heneiddio.
Cymorth Cynnar a Chefnogaeth
- Byddwn yn defnyddio technoleg er mwyn i bobl hŷn ofalu am eu hunain ac aros yn annibynnol, ac i annog gwell cynhwysiant cymdeithasol.
- Ar gyfer gofalwyr, byddwn yn parhau i ddatblygu gwasanaethau i fodloni anghenion cyfannol y teulu a chynnig gofal seibiant digonol.
- Byddwn yn helpu pobl i oresgyn unigrwydd ac unigedd cymdeithasol a bod yn aelod egnïol o’r gymuned
Mynd i’r afael â’r ‘4 Clefyd Mawr’
- Byddwn yn datblygu gwasanaethau effeithiol i drin a chefnogi pobl sy’n dioddef o bedwar prif achos afiechyd a marwolaeth gynnar ym Mhowys:
- canser
- clefydau cylchredol
- clefydau anadlol
- problemau iechyd meddwl
- Hefyd byddwn yn datblygu cymorth i leihau nifer ac effaith clefydau yn ddiweddarach mewn bywyd.
- Byddwn yn cefnogi timau iechyd a gofal i weithio’n llyfn gyda phobl hŷn i gael pethau’n iawn y tro cyntaf, ac i atal anghenion rhag gwaethygu.
- Byddwn yn adolygu gwasanaethau iechyd a gofal presennol ac yn buddsoddi yn yr amgylchfyd iechyd a gofal sy’n diwallu anghenion y dyfodol - sy’n darparu dewis, hygyrchedd a gwasanaethau cyd-gysylltiedig.
- Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddiogelu trigolion.
- Cyngor Sir Powys
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Tîm Iechyd Meddwl Powys
- PAVO
Ar hyn o bryd mae trefniadau i gynnwys sefydliadau’r trydydd sector, pobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr yn cael eu datblygu.
Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector
Peter Lathbury (Pennaeth Cymorth Trydydd Sector PAVO) a Freda Lacey (Uwch Swyddog Iechyd a Llesiant PAVO)
Amserlen cyfarfod: bob deufis.