Mae’r Bartneriaeth Dechrau Da’n gyfrifol am ddatblygu gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i atgyfnerthu a thrawsnewid gwasanaethau plant a phobl ifanc ym Mhowys fel yr amlinellir yn y Strategaeth Iechyd a Gofal. Yn benodol:
- Byddwn yn darparu hybiau cymunedol integredig gyda’r sectorau addysg, cymunedau a gwirfoddol, i sicrhau gwasanaethau lleol hygyrch.
- Byddwn yn datblygu rhaglen gyfrannol gyda chymunedau i gefnogi chwarae, gweithgareddau meddyliol a chorfforol, gan ddefnyddio mannau gwyrdd agored.
Cymorth cynnar a chefnogaeth
- Byddwn yn buddsoddi mewn cymorth emosiynol ac ymddygiadol ar gyfer teuluoedd, plant a phobl ifanc er mwyn magu cydnerthedd ac i gefnogi pontio i fywyd oedolion.
- Byddwn yn gwneud yr effaith gadarnhaol orau bosib o fewn 100 diwrnod cyntaf plentyn, gan ganolbwyntio ar atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
- Byddwn yn targedu adnoddau tuag at deuluoedd difreintiedig.
- Byddwn yn cefnogi ac yn cynorthwyo gofalwyr ifainc.
Mynd i’r afael â’r ‘4 Clefyd Mawr'
- Byddwn yn cefnogi plant a theuluoedd i greu sylfeini iechyd da trwy gydol eu bywydau. Mae hyn yn cynnwys pwysau iachus, diet positif a bod yn egnïol, cydnerthedd personol a chysylltiadau personol a chamau eraill fydd yn lleihau’r risg o ddatblygu’r pedwar prif achos afiechyd a marwolaeth gynnar yn ddiweddarach mewn bywyd:
- Canser
- Clefydau cylchredol
- Clefydau anadlol
- Problemau iechyd meddwl
- Byddwn yn cynnig profiad iechyd a gofal llwyr integredig i bobl ifanc a theuluoedd.
- Byddwn yn sicrhau fod gwasanaethau iechyd a gofal yn gweithio’n agos gyda darparwyr addysg i gefnogi pobl ifanc a datblygu ymddygiad iachus.
- Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau y caiff pobl ifanc eu diogelu.
Mae gan y Bartneriaeth nifer o is-grwpiau sy’n datblygu gweithgareddau mewn meysydd megis chwarae, sy’n cynnwys sefydliadau trydydd sector lleol.
- Heddlu Dyfed-Powys
- Cyngor Sir Powys
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
- Tîm Iechyd Meddwl Powys
- PAVO
Ar hyn o bryd mae’r trefniadau i gynnwys sefydliadau Trydydd Sector, plant, pobl ifanc a gofalwyr yn cael eu datblygu
Cynrychiolaeth PAVO/Trydydd Sector:
Peter Lathbury (Pennaeth Cymorth Trydydd Sector PAVO)
Amserlen cyfarfod: bob deufis.