Gofyn am Eich Barn
Cyngor Sir Powys yn teimlo'r pwysau
Mae’r pwysau parhaus ar wariant cyhoeddus yn golygu bod angen dod o hyd i rhwng £8m ac £13m yn ystod y flwyddyn nesaf er mwyn i ni allu gosod cyllideb gytbwys – sy’n ofynnol yn ol y gyfraith.
Pam ydyn ni yn y sefyllfa hon?
Mae Powys yn derbyn ei arian trwy dair prif ffynhonnell:
- Grant gan Lywodraeth Cymru
- Treth y Cyngor
- Codi tal am rai gwasanaethau
Dros y degawd diwethaf mae ein grant wedi lleihau ac rydyn ni wedi gorfod dod o hyd i arbedion a chynyddu Treth y Cyngor i gwrdd â’r hyn rydyn ni’n ei alw “bwlch y gyllideb” – y bwlch rhwng yr arian rydyn ni’n ei gael a’r hyn rydyn ni’n ei wario i ddarparu gwasanaethau.
Esboniodd y Cynghorydd Rosemarie Harris, Arweinydd y Cyngor: "Rydyn ni wedi gweld ein cyllid yn gostwng o 20% dros y deg mlynedd diwethaf o ganlyniad i galedi a newidiadau i flaenoriaethau gwariant cenedlaethol. Mae hyn wedi dod ar adeg pan fo pwysau, yn enwedig o fewn gofal cymdeithasol,ar gynnydd."
Mae hefyd nifer o heriau ynghlwm â darparu gwasanaethau mewn sir wledig fel Powys. Powys yw’r sir fwyaf prin ei phoblogaeth yng Nghymru ond mae’n gorchuddio chwarter arwynebedd y wlad. Mae gennym boblogaeth o 132,515 o bobl – gyda hanner ohonynt yn byw mewn pentrefi, pentrefannau neu aneddleoedd gwasgaredig. Mae darparu gwasanaethau rheng flaen fel casglu sbwriel, gofal cymdeithasol, glanhau strydoedd ac addysg ar draws y sir gyfan yn anodd sy’n golygu costau uwch.
Yn yr hinsawdd sydd ohoni, rydyn ni’n gweithio’n galed i gwrdd â’r her o lai a llai o arian. Rydyn ni’n cael ein gorfodi i ailfeddwl y ffordd orau y gallwn ddarparu’r 500+ o wasanaethau rydyn ni’n eu darparu ar hyn o bryd i chi fel preswylwyr. Rydym yn ystyried ail-lunio llawer ohonynt a’u darparu mewn ffyrdd gwahanol ac arloesol er mwyn cyfyngu’r effaith arnoch chi fel preswylwyr. Fodd bynnag, mae dewisiadau anodd o’n blaenau.
Hoffem eich gwahodd i ystyried y cynigion sydd wedi’u rhestru yn yr efelychydd hwn a rhoi eich barn ar sut y byddech chi’n dod o hyd i doriadau gwasanaeth gwerth rhwng £8m a £13m.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet ar faterion Cyllid, y Cynghorydd Aled Davies: "Rydyn ni’n cael ein gwasgu o bob cyfeiriad ac mae gennym rai penderfyniadau anodd i’w gwneud ar ddechrau y flwyddyn nesaf er mwyn gosdo cyllideb gytbwys. Mae’r efelychydd hwn yn manylu yn nhermau gwirionddol lle rydyn ni’n meddwl y gallwn ni wneud newidiadau i wasanaethau a pha effaith fyddai hyn yn ei gael arnoch chi fel preswylydd. Nid yw’n ymarfer hawdd o bell ffordd ond bydd eich ymatebion yn ein helpu ni i ystyried pa newidiadau gwasanaeth yr ydych chi fel preswylwyr yn anfodlon â nhw a pha rai y gallwn ni eu cymryd ymlaen i gydbwyso’r gyllideb. Diolch yn fawr.”
Sut mae’r efelychydd yn gweithio?
Pan fyddwch chi’n clicio ar y botwm "Creu eich Cyllideb” byddwch yn gweld ar unwaith ar frig y dudalen ar y gornel chwith blwch coch sy’n dweud wrthych mai eich targed yw dod o hyd i arbedion sy’n dod i gyfanswm o £13m. Yn y blwch du i’r dde fe fyddwch yn gallu gweld cyfanswm gwariant y cyngor bob blwyddyn sy’n £255m. Oyddwch yn penderfynu peidio gwneud dim byd byddai’r cyngor wedi gorwario o 5.4% ac felly ni fyddai’n gallu gosod cyllideb gytbwys – sy’n ofynnol yn ol y gyfraith.
Wyth Gwasanaeth a Threth y Cyngor
Ar yr ochr chwith mae yna restr o wyth gwasanaeth craidd y cyngor a phenawd treth y cyngor. Pan fyddwch chi’n clicio ar un o’r penawdau hyn byddwch yn gweld botwm “i” i’r chwith o deitl y gwasanaeth sy’n rhoi esboniad am y gwasanaeth, y gyllideb net gyfredol a rhai ffeithiau.
Pan fyddwch chi’n symud y llithrydd byddwch yn gallu gweld beth yw’r canlyniadau o leihau neu gynyddu’r gwariant ar wasanaeth penodol. Bydd pob llithrydd yn dechrau ar y gyllideb net gyfredol ar gyfer y gwasanaeth hwnnw – sy’n cael ei ddangos fel 0% ar y llithrydd.
Anfon eich cyllideb
Pan fyddwch wedi mynd trwy pob ardal wasanaeth, wedi ystyried y canlyniadau ar gyfer y toriadau gwasanaeth ac wedi dewis eich hoff ddewisiadau, byddwch yn gallu gweld ar frig y dudalen ar yr ochr chwith i ba raddau rydych wedi cydbwyso’r gyllideb.
Os ydych wedi gallu cydbwyso’r gyllideb ac yn barod i wneud toriadau sy’n dod i £13m bydd y blwch targed ar frig y dudalen ar y chwith yn troi'n wyrdd. Fel arall bydd yn parhau’n goch. Cofiwch gallwch gyflwyno eich cyllideb ar unrhyw bryd. Rydym yn ystyried gorfod gwneud toriadau mewn gwasnaethau o rhwng £8m ac £13m y flwyddyn nesaf ac mae’r cynigion a rhestrir wedi cael eu cynnig gan ein huwch reolwyr gwasanaeth fel meysydd lle maen nhw’n ystyried y gellir gwneud toriadau.
Cyn i chi gyflwyno unrhywbeth byddwch yn cael y cyfle i weld crynodeb o’ch holl ddewisiadau ac i newid unrhyw beth ry’ch chi’n anfodlon ag ef. Unwaith y byddwch wedi anfon eich cyllideb, byddwn yn gofyn i chi ateb ychydig o gwestiynau amdanoch chi eich hunan a fyddai’n ein helpu i asesu pa mor gadarn yw’r atebion rydym wedi derbyn yn gyffredinol.
CLICIWCH YMA I LLUNIWCH EICH CYLLIDEB