Mae'r Gwobrau yn ôl ac rydym nawr yn derbyn ceisiadau ac enwebiadau!
Mae'r Gwobrau yn cydnabod, dathlu a rhannu arfer ragorol gan sefydliadau, grwpiau neu dimau ym maes gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Rydym yn chwilio am geisiadau o bob ardal - y sectorau gwirfoddol, preifat neu statudol. Gall y gofal a'r cymorth a ddarparwyd fod yn ofal preswyl neu gymunedol, mawr neu fach. Gallwch fod yn gweithio gyda phlant neu oedolion..
Ar gyfer Gwobrau 2020 rydym wedi symleiddio ein ffurflenni cais i wneud hi'n haws ymgeisio. Hefyd gall pobl gyflwyno fideo fer yn lle llenwi ffurflen gais.
Yn ogystal â newid y ffurflenni, rydym wedi cyflwyno Y wobr Gofalwn Cymru.
Mae Y Gwobr Gofalwn Cymru yn dathlu gweithwyr gofal unigol yng Nghymru sy'n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl.
Gallent weithio yn y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol neu statudol, gallent weithio gydag oedolion, plant neu deuluoedd.
Y gwahaniaeth rhwng Y Gwobr Gofalwn Cymru a'r Gwobrau yw ein bod yn gofyn am enwebiadau ar gyfer Y Gwobr Gofalwn Cymru a bydd yr enillydd yn cael ei benderfynu trwy bleidlais gyhoeddus.
Gall unrhyw un enwebu gweithiwr gofal, felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gadael i gynifer o bobl â phosib wybod amdano.
Weithiau, nid yw pobl yn sylweddoli pa mor drawiadol yw eu gwaith, felly os ydych chi'n gwybod am brosiect sy'n gymwys - waeth pa mor fawr neu fach - rhowch y wybodaeth hon iddyn nhw a'u hannog i ymgeisio.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 5pm, 15 Tachwedd 2019
Am fwy o wybodaeth a ffurflen enwebu, ewch i gofalcymdeithasol.cymru/gwobrau2020