Beth yw’r Cynnig Rhagweithiol?
Y Cynnig rhagweithiol yw darparu gwasanaeth yn Gymraeg heb i rywun orfod ofyn amdano.
Nid yw defnyddwyr gwasanaeth wastad yn sylweddoli bod nhw’n gallu gofyn i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg, felly mae’r cynnig rhagweithiol yn rhoi sicrwydd a galluogi unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth sydd angen/eisiau eu gwasanaethau yn Gymraeg derbyn eu gwasanaethau yn Gymraeg.
Mae hefyd ynghlwm a chydymffurfio gyda deddfwriaeth iaith Gymraeg – Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
Sut ydyn ni’n mynd i afael a’r Cynnig Rhagweithiol?
Trwy ymwybyddiaeth Cymraeg, deall be mae’r iaith a’r diwylliant yn golygu i unigolion.
Cam wrth gam! Mae’n bwysig bod mudiadau ac unigolion yn ymwybodol ei fod yn broses a dim yn digwydd dros nos
Holwch! Mae PAVO’n gallu cynnig cefnogaeth ac arweiniad
Mae Swyddog Datblygu’r Iaith Gymraeg PAVO yn rhyddhau adnoddau sydd am eich helpu gyda chyflawni’r Cynnig rhagweithiol yn eich mudiad, gan gynnwys pecyn gwybodaeth ar y cynnig rhagweithiol, llyfryn ymadroddion i’r 3ydd sector a llawer mwy.