Cyfleuster iechyd a gofal cymdeithasol ar flaen y gad yng ngogledd Powys

Gallai’r ddelfryd o gael cyfleuster iechyd a gofal cymdeithas newydd sbon yng ngogledd Powys droi’n wir, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru.

Yn dilyn cyhoeddiad gan y gweinidog yn ddiweddar y byddai £2.5m ychwanegol ar gael i Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, bydd y cyngor a’r bwrdd iechyd  yn dechrau datblygu cynlluniau ar gyfer campws llesiant aml-asiantaeth, gan gynnwys Canolfan Ranbarthol Wledig i ogledd Powys.

Mae gan Fwrdd Partneriaeth rhanbarthol Powys uchelgeisiol iawn i wella iechyd a lles trwy fodel gofal newydd i ogledd Powys. Mae hyn yn gyfle unwaith mewn oes i greu campws llesiant aml-asiantaeth i bob cenhedlaeth a fydd yn cynnwys addysg gynradd, iechyd, gofal cymdeithasol a llety â chymorth.

Gallai’r Ganolfan Ranbarthol Wledig gynnwys gwasanaethau adsefydlu trwy gynnig gwelyau, diagnosteg uwch ac amrywiaeth eang o wasanaethau eraill. 

Er mwyn i’r cyngor a’r bwrdd iechyd wybod beth sydd bwysicaf i’n cymunedau, byddwn yn ceisio barn y trigolion lleol i helpu i ddatblygu ein cynlluniau ymhellach.

Canol y Drenewydd yw’r safle a ffefrir ar gyfer y campws. Ar hyn o bryd mae amrywiaeth o ddarparwyr yma, gan gynnwys darpariaeth iechyd, gwasanaethau eraill y cyngor a dwy ysgol. Ar y safle hwn, bydd y Ganolfan Llesiant Wledig yn cael ei chydleoli ger ysgolion â gwell cyfleusterau, yn ogystal â Hwb Llesiant Cymunedol a fydd yn rhan o rwydwaith o Hybiau Llesiant Cymunedol ar hyd a lled Gogledd Powys.

Nod Rhaglen Llesiant Gogledd Powys yw canolbwyntio ar lesiant; hyrwyddo cymorth a chefnogaeth cynnar trwy allu darparu’r dechnoleg i’ch helpu chi i fyw gartref; mynd i’r afael ag achosion iechyd a llesiant gwael; a sicrhau gofal di-fwlch gan dimau sy’n cynnwys cydweithio rhwng y gymdogaeth a’r cymunedau fel bod gwasanaeth mwy di-fwlch ar gael pan fydd ei angen arnoch.

Dywedodd y Cyng Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio’r Cabinet ar faterion Ysgolion a’r Gymraeg: “Fel y gwŷr llawer o deuluoedd yn y Drenewydd, mae Cyngor Sir Powys yn datblygu nifer o brosiectau cyffrous yn y dref. Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys weledigaeth ar gyfer gogledd Powys gyfan, gan greu hwb yn y Drenewydd.

“Trwy gydweithio, mewn partneriaeth â’r gymuned, credwn y gallwn greu prosiect sy’n torri tir newydd, a fydd yn cyflenwi amrediad i fudd-daliadau i bobl o bob oed. Bydd gwella’n cyfleusterau addysg sy’n bodoli eisoes yng nghanol y dref yn gyfle gwych i gyflenwi addysg mewn amgylchedd penigamp, sy’n addas ar gyfer dysgu’r cwricwlwm newydd.

“Bydd darparu cyfleusterau iechyd gerllaw yn caniatáu i ollwng un plentyn yr ysgol a mynd â brawd neu chwaer iau am brawf clyw ar yr un pryd. Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig datblygu cyfleusterau i alluogi rhai o’r triniaethau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd mewn ysbytai beth pellter o ogledd Powys i gael eu cyflenwi’n lleol. Byddai hyn yn cael effaith enfawr ar fynediad i wasanaethau y mae galw mawr amdanynt.

“Yn ogystal â hyn, byddwn yn cynnwys grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a thrigolion o bob oed er mwyn datblygu ffyrdd o wella llesiant trwy brosiectau sy’n annog creadigrwydd, ymarfer, gweithgareddau awyr agored, bwyta’n iach a llawer o ddulliau arloesol eraill. Byddwn hefyd yn hybu iechyd meddwl a chorfforol, a bydd y prosiectau hyn yn dwyn pobl ynghyd gan greu hwyl.   Dyma’r cyfle i ddatblygu ffocws pwysig i Drenewydd ac i ogledd Powys a gobeithiwn y bydd pawb yn yr ardal yn cymryd yn y prosiectau fydd yn gallu helpu i lunio ein dyfodol.”

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Carol Shillabeer, “Gallai Canolfan Ranbarthol Weldig alluogi dinasyddion i gael mynediad i ragor o gefnogaeth, archwiliadau iechyd manylach ac apwyntiadau yn nes adre. Ein nod yw lleihau nifer yr ymweliadau ag ysbytai y tu allan i’r sir i wedl arbenigwr trwy ddarparu gwasanaethau’n fwy lleol trwy’r Ganolfan Ranbarthol Wledig.

“Ein blaenoriaeth uchaf yw sicrhau bod gan drigolion gogledd Powys fynediad i’r gwasanaethau iechyd a gofal cywir ar yr adeg gywir, naill ai yn eu cartrefi neu yn eu cymunedau trwy fodel gofal newydd. Bydd hyn yn cynnwys timau yn y gymdogaeth yn  cydweithio er mwyn i bobl dderbyn gwasanaeth mwy di-fwlch pan fydd angen hynny arnynt.

“Rhoddodd ein Cyd-Strategaeth Iechyd a Gofal ddealltwriaeth werthfawr i ni o’r ‘hyn sydd bwysicaf’ i bobl gogledd Powys yn eu cartref a’u cymuned. Nawr, dros y blynyddoedd sydd o’n blaenau, ein nod yw troi’r breuddwydion a’r dyheadau a nodir yn ein strategaeth yn wirionedd.” 

Bydd digwyddiad lansio yn cael ei gynnal yn nes ymlaen yr wythnos hon yn Llanidloes a’r Drenewydd ddydd Gwener 14 Mehefin pan fydd pobl yn cael cyfle i ddweud eu dweud ar yr ‘hyn sydd bwysicaf’ i’r rhan fwyaf ohonynt ac i’w cymuned heddiw. Hefyd, bydd pobl wedi cael cyfle i gyfarfod a sgwrsio ag aelodau etholedig a swyddogion gweithredol y cyngor a'r bwrdd iechyd.

Yn dilyn y lansiad, cynhelir digwyddiad yn y Gymraeg yn y Trallwng, ac yna nifer o sesiynau ‘taro heibio’ ar draws Powys i drigolion rannu eu barn. Ewch i wefan/cyfryngau cymdeithasol y cyngor a’r bwrdd iechyd i weld y dyddiadau a’r mannau cyfarfod.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity