Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn nawr ar agor am geisiadau

Mae CGGC yn gwahodd mudiadau treftadaeth yng Nghymru i ymgeisio am gefnogaeth ddatblygu ymroddedig gan ein prosiect Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn.

Mae gennym gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i weithio gyda 29 mudiad treftadaeth ledled Cymru, yn eu darparu gyda, hyfforddiant trylwyr ymroddedig am ddim i helpu eu mudiadau i ddatblygu un neu fwy o’r meysydd canlynol o reolaeth sefydliadol: llywodraethu, codi arian, marchnata a’r cyfryngau cymdeithasol, cynllunio busnes, mesurau effaith ac adrodd a rheoli prosiect.

 

I fod yn gymwys am gefnogaeth gan Gatalydd Cymru, mae’n rhaid i fudiadau:

  • Gael pwrpas elusennol. Mae mudiadau cymwys yn cynnwys cymdeithasau anghorfforedig, grwpiau cymunedol, elusennau cofrestredig, Prif Swyddogion Gwybodaeth, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (CBC), Cymdeithasau Buddiannau Cymunedol) Gall mudiadau nad ydynt yn elusennau ymgeisio mewn cysylltiad â mudiad elusennol. Er enghraifft, gall partneriaeth rhwng Cymdeithas Anghorfforedig ac awdurdod lleol sy’n cefnogi’r Gymdeithas Anghorfforedig i sefydlu elusen i reoli safle dreftadaeth fod yn gymwys. Nid fydd awdurdodau lleol yn unig yn cael eu derbyn. Dalier sylw: mae’n rhaid i CBC(au) gael eu cyfyngu trwy warant i fod yn gymwys.
  • Gael isafswm o dri ymddiriedolwr neu gyfarwyddwr yn unol ag arferion gorau a gofynion y Comisiwn Elusennau.
  • Mae’n rhaid i dreftadaeth gael lle amlwg yn eich dibenion elusennol, naill ai’n benodol neu’n amhenodol.
  • Nid yw eich bod yn gweithio o adeilad rhestredig yn unig, er enghraifft, yn ateb y meini prawf – byddai rhaid i’r sefydliad wau treftadaeth yr adeilad i’w gweithgareddau o ddydd i ddydd.
  • Mae’n rhaid i unrhyw amgueddfa sy’n ymgeisio am y prosiect fod yn achrededig, neu’n adnabyddedig i CyMAAL (Amgueddfeydd, Archifdai, Celfyddydau a Llyfrgelloedd Cymru) fel rhywun sy’n gweithio tuag at achrediad.

 

Mae CGGC yn awyddus i weithio gyda hyfforddwyr a chyfranogwyr ar y prosiect Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn i gefnogi gymaint o fudiadau treftadaeth â phosib. Rydym felly’n gofyn i dderbynwyr hyfforddiant i ymrwymo i ddarparu dau ddiwrnod o gefnogaeth gyfoed i fudiadau treftadaeth eraill. Drwy’r prosiect Catalydd Cymru: Treftadaeth Wydn, bydd CGGC yn darparu hyfforddiant i wirfoddolwr cynghori cyfoed a’u paru gyda mudiad fyddai’n cael budd o’r gefnogaeth yma. Bydd hyn yn digwydd yn ystod yr ail flwyddyn (2020 – 2021) o’r prosiect.

 

I gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan ac i dderbyn pecyn a ffurflen ymgeisio, cysylltwch ag Alison Pritchard, Rheolwr Catalydd, ar 02920 435 763 neu ar apritchard(at)wcva.cymru

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity