Archwilio Llesiant gyda Phobl sydd angen Gofal a Chefnogaeth yng Nghymru

Mae Prifysgol Abertawe yn edrych i siarad â phobl dros 18 oed sy'n defnyddio

gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae hon yn rhan o astudiaeth ymchwil am brofiadau pobl o ddefnyddio gofal cymdeithasol yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydyn ni wedi rhestru rhai cwestiynau cyffredinol sydd gennych ac wedi rhoi atebion ich helpu chi i benderfynu a ydych chi am gymryd rhan.

Beth yw pwrpas yr astudiaeth?

Yn 2016 daeth deddfau newydd i rym yng Nghymru er mwyn newid y ffordd y mae gofal cymdeithasol yn gweithio ac ar beth ffocysa’r gofal a’r gefnogaeth. Rhan bwysig o hyn oedd ffocws newydd ar ‘lesiant’ pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol. Maer holl wasanaethau gofal cymdeithasol bellach i fod i ganolbwyntio ar wella llesiant pobl syn cael mynediad atynt, gan eu cadwn ddiogel ac yn gorfforol dda. Hoffwn wybod yn yr astudiaeth hon, beth yw eich barn am eich gofal ach cefnogaeth gan ganolbwyntio ar lesiant. Hoffem wybod hefyd a ywr ffyrdd y mae llesiant yn cael ei fesur yn gwneud synnwyr i chi. Hoffem wybod am eich profiadau cyffredinol o ofal cymdeithasol ers ir ddeddfwriaeth newydd ddod i rym yn 2016.

Pam y gofynnir i mi gymryd rhan?

Dymunwn siarad â phobl sydd angen gofal a chefnogaeth ac sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol o dan y ddeddfwriaeth newydd. Pwrpas y cyfweliadau hyn yw deall beth mae pobl yn y grŵp hwn yn ei feddwl am lesiant a sut maen cael ei fesur. Bydd yr hyn rydyn nin ei ddysgu yn ein helpu i werthuso pa mor dda maer ddeddfwriaeth newydd yn gweithio i bobl yng Nghymru.

Beth sy’n digwydd os y cytunaf gymryd rhan?

Cewch gynnig siarad â ni, wyneb yn wyneb neu dros y ffôn, ar ddyddiad ac amser syn addas i chi. Pan fyddwn yn siarad ân gilydd, byddwn yn mynd trwyr astudiaeth gyda chi ac yn gofyn i chi lenwi ffurflen gydsynio. Yna byddwn yn siarad am eich barn am lesiant a gofal cymdeithasol. Bydd popeth a ddywedwch yn ystod ein sgwrs yn cael ei gadw rhyngoch chi ar tîm ymchwil. Os cytunwch, bydd eich cyfweliad yn cael ei sain recordio a;i drawsgrifion hwyrach. Mae hyn yn caniatáu ir ymchwilyddganolbwyntion llawn arnoch chi yn ystod y cyfweliad. Byddwch yn rhydd i stopio ar unrhyw adeg yn ystod ein sgwrs.

Pa mor hir fydd y cyfarfod?

Maer amserau’n amrywio ar gyfer pob person y byddwn yn siarad â hwy, ond rydyn nin disgwyl ir mwyafrif o gyfarfodydd gymryd oddeutu awr neu lai.

Os oes gennych ddiddordeb, ffoniwch neu anfonwch e-bost at

Dr. Simon Read ar 07854704797 neu s.m.read@swansea.ac.uk

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity