Ymchwil Clore Leadership Wales

Mae Clore Social Leadership, mewn partneriaeth â Chanolfan Cydweithredol Cymru, yn bwriadu lansio rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru yn 2021.

Mae hon yn un o gyfres o raglenni datblygu arweinyddiaeth cenhedlaeth newydd a gynigir gan Clore Social Leadership. Fel bod y rhaglen yn rhoi’r gwerth gorau, rydym yn cynnal ymchwil er mwyn cael dealltwriaeth ynglŷn â sut i deilwra’r rhaglen i Gymru, o ran anghenion penodol a’r heriau a wynebir gan ei harweinwyr cymdeithasol a phroffil y trydydd sector. Yn y pen draw, rydym yn disgwyl i’r rhaglen wasanaethu o leiaf 150 o arweinwyr yng Nghymru sy’n gweithio yn y trydydd sector ar wahanol gamau yn eu gyrfa; bydd ar gael i bob arweinydd ym mhob rhan o Gymru; caiff ei chynnal yn gyfan gwbl ar-lein ac ni fydd costau i’r cyfranogwyr.

Er mwyn gallu sicrhau y gellir cyflawni hyn, mae Clore Social Leadership wedi ein comisiynu ni, Eva Trier a Meirion Thomas, i gasglu barn a safbwyntiau arweinwyr yn y trydydd sector yng Nghymru. Rydym felly’n cynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid, yn trefnu arolwg ac yn cynnal cyfres o gyfarfodydd grwpiau ffocws. A fyddech cystal â’n helpu i gyrraedd cymaint o arweinwyr o gefndiroedd amrywiol â phosibl?

Gallech ein helpu yn y ffyrdd canlynol:

Rhannu’r arolwg gydag arweinwyr yr ydych yn gweithio â nhw: http://doo.vote/aca574f

Gwneud yn siŵr bod yr arweinwyr rydych yn gweithio â nhw yn gallu cofrestru ar gyfer y grwpiau ffocws i roi eu barn: https://forms.gle/CAGSQQCrKevBRotj8.

Cysylltwch a ni ar post(at)evatrier.co.uk.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymchwil, cysylltwch â Carrie Cuno (carrie@cloresocialleadership.org.uk) yn Clore Social Leadership.

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity