Ymateb i Goronafeirws (COVID-19) ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys

Yma ym Mhowys rwy'n hynod falch o'r ffordd y mae staff iechyd a gofal, gwirfoddolwyr, gweithwyr hanfodol a'n cymunedau wedi ymateb i heriau Coronafeirws (COVID-19). Mae'r rhain yn amseroedd heriol a digynsail, na fu'r GIG erioed wedi profi o'r blaen

Gwn hefyd y bydd y rhain yn amseroedd pryderus gan y byddwn i gyd yn poeni am sut mae Coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ac yn parhau i effeithio arnom ni, ein teulu, ein ffrindiau, ein cymdogion.

Y neges bwysicaf i bawb yw Aros Adref ac Achub Bywydau.

Rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan i leihau lledaeniad yr haint.

  • Ewch allan am fwyd, rhesymau iechyd neu waith yn unig (ond dim ond os na allwch weithio gartref)
  • Arhoswch 2 fetr (6 troedfedd) i ffwrdd oddi wrth bobl eraill
  • Golchwch eich dwylo cyn gynted ag y byddwch chi'n cyrraedd adref

Bydd y camau hyn yn lleihau lledaeniad Coronafeirws (COVID-19). Byddant yn lleihau nifer y bobl sydd yn dod yn sâl. Byddan nhw'n achub bywydau. Byddant yn helpu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i barhau i gyrraedd y rhai sydd fwyaf mewn angen.

Mae'r camau hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy'n fwy agored i haint. Mae llythyrau yn cael eu hanfon at bobl sydd â'r risg uchaf o salwch difrifol i'w cynghori i aros gartref am 12 wythnos i amddiffyn eu hunain. Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal yn gweithio'n galed i estyn allan i ddarparu cefnogaeth i bobl sy'n agored i niwed ac yn ynysig, ac i'w cysylltu â chefnogaeth gymunedol trwy Gysylltwyr Cymunedol lleol.

Gwn y bydd pobl yn awyddus i ddeall sut yr ydym ni ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ymateb. Yn y bwletin sydd ynghlwm, nodais ein model ymateb clinigol ar gyfer achub bywydau. Rwyf hefyd wedi darparu diweddariad ar feysydd polisi cenedlaethol fel profi ac offer amddiffynnol personol (PPE) a fy nod yw darparu diweddariadau rheolaidd i chi wrth i'r mater hwn barhau.

Er mwyn eich cyrraedd yn gyflym mae'r bwletin hwn wedi'i gyhoeddi yn Saesneg yn unig, ond bydd fersiwn Cymraeg ar gael yn fuan o’m swyddfa drwy powys.executive(at)wales.nhs.uk

Diolch am bopeth rydych chi'n ei wneud yn y frwydr yn erbyn Coronafeirws (COVID-19).

Yr eiddoch yn gywir, Carol Shillabeer, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

 

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity