Ydych chi’n gweithio gyda chymunedau a grwpiau ledled Cymru?

Beth am gymryd rhan yn un o sesiynau ymgysylltu ar-lein am ddim y Senedd, lle gallwch chi a’ch grŵp ddod i wybod mwy am etholiad y Senedd eleni? Dewiswch o dair sesiwn bosibl.

[Translate to Welsh:]

[Translate to Welsh:]

1.  Etholiad y Senedd 2021 - Cyflwyniad

30 munud

Dewch i wybod mwy am Etholiad y Senedd, rôl y Senedd ac Aelodau o’r Senedd, a’r

broses etholiadol drwy gymryd rhan yn y sesiwn ar-lein am ddim wythnosol hon.

 

 

2. Etholiad y Senedd 2021 – Hyfforddi’r Hyfforddwr

(mewn partneriaeth â’r Comisiwn Etholiadol) 

45 munud

Ymunwch â ni ar gyfer y sesiwn fisol ar-lein hon sydd ar gael yn rhad ac am ddim er mwyn dysgu am Etholiad y Senedd, sut i gofrestru, eich cymhwysedd i bleidleisio a’r broses etholiadol. Byddwch yn dysgu am rôl y Senedd, sut y bydd y Senedd nesaf yn cael ei ffurfio, ei phwerau a rôl Aelodau o’r Senedd yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Cewch wybod hefyd sut i ddod o hyd i adnoddau ar-lein, fideos a gweithgareddau a fydd yn gymorth i gynnal eich sesiwn eich hun.

 

3. Etholiad Senedd 2021 – Sesiwn wedi ei theilwra

Mae modd hefyd drefnu sesiwn wedi ei theilwra’n arbennig ar gyfer eich grŵp ar adeg sy’n gyfleus i chi.

 

Cofrestrwch yma neu ebostiwch cysylltu(at)senedd.cymru neu ffoniwch 0300 200 6565 i gael rhagor o wybodaeth.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity