Y Gronfa Gofal Integredig - Ceisiadau am Grantiau Bach

Mae’r grŵp Dechrau’n Dda o dan adain y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol wedi cytuno i ddyrannu £25,000 o’r Gronfa Gofal Integredig i redeg y Cynllun Grantiau Bach.

Prif nod y cyllid eleni fydd cynorthwyo iechyd a lles emosiynol a’r dull ysgol gyfan.

Bydd pob cais am grant am uchafswm o £2,000 iddatblygu gweithgareddau yn y gymuned ar gyfer plant a phobl ifanc un ai mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar, ysgolion,colegau neu’r rhai hynny sy’n derbyn eu haddysg heblaw yn yr ysgol, i hybu lles ac iechyd meddwl da.

Efallai y bydd grantiau am fwy na hynny yn cael eu hystyried yn seiliedig ar gryfder yr achos busnes, yn enwedig os ydynt yn geisiadau cydweithrediadol.


Mae’n ofynnol i’r prosiectau gefnogi’r amcanion isod ar gyfer plant a phobl ifanc:

  • · Ymyrraeth ac atal cynnar
  • · Iechyd emosiynol a lles meddyliol da
  • · Canolbwyntio ar y gymuned
  • · Gwerth am arian
  • · Hybu cadernid
  • · Bod yn gydweithrediadol
  • · Gweithio’n hyblyg/yn rhithiol wrth ymateb i gyfyngiadau Covid-19

Rydym yn argymell bod prosiectau’n ystyried:

· Dull ysgol gyfan

Rhaid i geisiadau ystyried effaith Covid-19 a sut y bydd prosiectau’n cael eu cyflawni mewn dulliau hyblyg, dyfeisgar ac arloesol.


Efallai y byddwch yn meddwl am sut i gyflawni prosiectau’n rhithiol/o bell. Rhaid i geisiadau gynnwys asesiad risg Covid-19.


Cyllid sbardun am un tro’n unig yw hwn, gyda’r nod o adeiladu capasiti. Ni fydd grantiau’n cael eu dyfarnu yn gyfnewid am ffrydiau cyllid sydd gennych yn barod, busnes fel arfer, neu i symbylu galw parhaus nad oes modd ei ddiwallu o ffynonellau presennol.

Ni all grantiau gefnogi prynu cyfarpar.

Ni fydd grantiau’n cael eu dyrannu i gefnogi ceisiadau sy’n ceisio hyrwyddo safbwyntiau gwleidyddol neu ffydd benodol. Bydd rhaid i unrhyw brosiectau ymyrraeth rydym yn eu cefnogi arddangos sail annibynnol a gwrthrychol.

Bydd rhaid i geisiadau grant ddatgan yn glir pa ddeilliannau/effeithiau maent yn disgwyl eu cyflawni a disgrifio sut y byddant yn rhoi tystiolaeth o’r effaith yn dilyn cyflawni’r prosiect. (Cofiwch gynnwys sut y bydd hwn yn cefnogi hyder ac iechyd plant a phobl ifanc a’u gallu i ymateb yn gadarnhaol i gyfleoedd, i ddangos cadernid a’r gallu i ryngweithio â phrofiadau a syniadau newydd)


Yn ogystal, bydd rhaid i geisiadau grant roi gwybodaeth am sut i blethu’r prosiect â’r brif ffrwd/ei gynnal/ei gau ar ddiwedd y grant.


Cewch ddefnyddio grantiau i gyfoethogi arfer da presennol, i gynorthwyo trawsnewid a newid, ac i roi prawf ar fodelau newydd.


Mae’r cynllun ar agor i bob sector. (Grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol, y Bwrdd Iechyd, yr Awdurdod Lleol, sefydliadau’r sector cyhoeddus eraill a busnesau preifat)

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 12.00pm, dydd Gwener 28 Awst 2020


Bydd ceisiadau’n cael eu trafod a’u hystyried gan banel amlasiantaethol a phobl ifanc

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity