Y Gronfa Datblygu Cymdeithasol "Symud Ymlaen" - Ceisiadau nawr AR AGOR!

Mae’r Gronfa Datblygu Cymdeithasol - Symud Ymlaen ar agor ar gyfer ceisiadau hyd at 12.00 canol dydd, dydd Gwener 14fed Awst 2020.

[Translate to Welsh:]

[Translate to Welsh:]

 
Mae dau Linyn i’r Gronfa.

 

Llinyn 1 - Ymateb

Diben yr elfen ymateb yw cefnogi sefydliadau i gyflenwi gweithgareddau ar gyfer pobl agored i niwed sydd wedi eu heffeithio gan bandemig COVID-19. Cyllidir y Llinyn hwn gan gyllid Comic Relief o arian a godwyd trwy’r ‘Big Night In.’

 

Llinyn 2 - Adfer

Diben yr elfen hon yw sicrhau fod gan sefydliadau’r trydydd sector/ gwirfoddol yr adnoddau er mwyn ailgychwyn neu sefydlu  gwasanaethau a gweithgareddau cynaliadwy (Arian Sefydlu) i wireddu’r deilliant o wella llesiant corfforol a meddyliol pobl er mwyn hyrwyddo byw’n annibynnol ac i atal ymyriadau lefel uwch.

 

Mae’r gronfa ar agor i Sefydliadau’r Sector Gwerth Cymdeithasol fel a ganlyn:
  • Elusennau Cofrestredig
  • Cwmnïau Buddiant Cymunedol
  • Sefydliadau Corfforedig Elusennol
  • Cydweithfeydd
  • Mentrau Cymdeithasol
  • Cyngor Sir Powys, Cynghorau Tref a Chymuned sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda Sefydliad y Sector Gwerth Cymdeithasol lle caiff y fenter ei harwain gan y Sefydliad Gwerth Cymdeithasol ac mae’n atebol fel y corff sy’n derbyn y grant.
  • Grwpiau anghyfansoddiadol anffurfiol sy’n gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliad/grŵp cyfansoddiadol. Y sefydliad/grŵp cyfansoddiadol fydd yr ymgeisydd sy’n arwain, ac yn atebol fel y corff sy’n derbyn y grant.

 

Hyd y Gronfa

Disgwylir i brosiectau a mentrau cychwyn cyflenwi ym Medi 2020 a byddant yn cael eu cyllido hyd at 31ain Mawrth 2021.

Llinyn 1 Ymateb -  mae cyfanswm o £26,591 ar gael, ac yn Llinyn 2 Adfer mae £141,751 ar gael.  

Ni osodwyd unrhyw uchafswm o ran y swm y gall sefydliadau wneud cais amdano, oherwydd bydd y panel yn penderfynu ar ddefnydd gorau’r adnoddau sydd ar gael.

 

I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â: grants(at)pavo.org.uk

 

Y Gronfa Datblygu Cymdeithasol - Symud ymlaen


Am fwy o wybodaeth, croeso ichi gysylltu â Tim Davies, Swyddog Datblygu Gwerth Cymdeithasol PAVO ar 01597822191 neu drwy e-bostio tim.davies@pavo.org.uk

 

 

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity