Wythnos Gwirfoddolwyr 2019 - 1-7 Mehefin

Cyfle i ni ddiolch a dathlu gwirfoddolwyr ym Mhowys!

[Translate to Welsh:] Volunteers Week logo

Ddydd Iau 6 Mehefin byddwn yn cyhoeddi’r Gwobrau Gwirfoddolwyr y Flwyddyn Powys mewn seremoni yn Llandrindod. Dilynwch y tudalen Facebook Canolfan Gwirfoddoli Powys am ffotos o’r noson a’r enillwyr!

Dyma ychydig o’r digwyddiadau #WythnosGwirfoddolwyr eraill sy’n digwydd ym Mhowys yr wythnos 'ma:

Mae Canolfan Gymunedol Tref-y-clawdd yn cynnal Bore Coffi Gwerthfawrogiad Gwirfoddolwyr ddydd Mawrth 4 Mehefin, 10yb – 12hd.

Mae Cymorth Cymunedol Rhaeadr Gwy a'r Ardal yn rhoi gwobrau ar eu noson Gwerthfawrogiad Gwirfoddolwyr ddydd Mercher 5 Mehefin (digwyddiad gwahoddiad yn unig).

Mae Canolfan Gwirfoddoli Ystradgynlais yn cynnal Ffair Wirfoddoli ddydd Iau 6 Mehefin yn Neuadd Les Ystradgynlais. Dysgwch am gyfleoedd lleol, mwynhewch baned, cacen a sgwrs gyfeillgar!

Mae Biwro Gwirfoddoli Gogledd Maldwyn yn cynnal digwyddiad am wirfoddolwyr yn y Siop Gymunedol yn Llanfyllin ddydd Iau 6 Mehefin - galwch i mewn am baned a cacen 1-3yp.

Mae Biwro Gwirfoddoli De Maldwyn yn cynnal Diwrnod Agor yn eu swyddfa yn 30 Stryd y Bont Fer, Drenewydd. Ddydd Gwener 7 Mehefin, 11yb – 3yp.

Bydd Biwro Gwirfoddoli Aberhonddu yn y Neuadd Marchnad ddydd Gwener 7 Mehefin – dewch i sgwrsio am wirfoddoli lleol!

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity