Uwchsgilio i lwyddo

Er bod rhai cyrsiau ddim am ddim rhagor, maen’t dal yn rhad.

Mae PAVO wedi penderfynu parhau i sybsideiddio cyrsiau ar gyfer y misoedd nesaf. Mae hyn yn golygu y gall aelodau fynychu unrhyw un o'n sesiynau hyfforddi 2 awr am ddim ond £ 20. Nid yn unig hynny, ond mae'r aelodaeth yn dal AM DDIM (darganfyddwch fwy yma).

Gallwch ddarganfod popeth am yr hyn sydd ar y gweill yn ein fideo hyfforddi Ebrill / Mai.

Yn pontio rhaniad Ebrill a Mai yw dau gwrs yn canolbwyntio ar sut i harneisio pŵer y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eich sefydliad neu grŵp. Gan ddechrau gyda’r cwrs sylfaenol (‘Basics’) ar 28ain Ebrill - ar gyfer dechreuwyr llwyr.
Bydd Flo Greaves wedyn yn symud ymlaen i edrych ar strategaeth, cynulleidfaoedd, arfer da ac moesau - eich camau nesaf (‘Next Steps’) - ddydd Mercher 5ed Mai.

Bydd Emma Coates, swyddog Canolfan Gwirfoddoli Powys newydd PAVO yn eich tywys trwy bopeth sydd angen i chi ei wybod wrth ‘Baratoi a Recriwtio Gwirfoddolwyr’ ar ddydd Mawrth 11fed Mai. Erbyn diwedd y cwrs hwn byddwch yn deall yn well y cyfrifoldebau sydd gennych tuag at eich gwirfoddolwyr, a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl ganddynt.

Os ydych chi'n rhywun sy'n gweithio gyda gwirfoddolwyr, ymunwch a’r sesiwn gydweithredol WCVA / PAVO sydd AM DDIM, ynglŷn â sut i ddefnyddio gwefan Gwirfoddoli Cymru, rhan o'r seilwaith Cymorth Trydydd Sector, i helpu sefydliadau dan arweiniad gwirfoddolwyr ledled Cymru. Byddwn yn ymuno ag eraill ledled Cymru i ddysgu mwy gan Michiel Blees, ar ddydd Iau 13eg Mai.

Gall pawb sy’n ymwneud â rhedeg Elusen - neu sy’n ystyried ymgymryd â rôl lywodraethu - elwa o'n cwrs ‘Bod yn Ymddiriedolwr’ gyda Michael Entwistle ar 20fed Mai. Bydd y cwrs hwn yn eich tywys trwy gyfrifoldebau cyfreithiol sydd gennych pan fyddwch yn ymddiriedolwr, yn ogystal â'ch rôl a'r cyfrifoldebau sydd gennych tuag at eich sefydliad.

Os nid yw hynna'n ddigon, mae sesiynau am ddim ar fancio amser a defnyddio'r Gymraeg.

Gellir archebu pob cwrs trwy ein gwefan a gellir talu (lle bo angen) naill ai trwy anfoneb neu PayPal wrth archebu.

Lle i gael hyd inni

Swyddfa Llandrindod

Unit 30
Ddole Road Industrial Estate
Llandrindod
Powys
LD1 6DF

01597 822 191

Swyddfa'r Drenewydd

Plas Dolerw
Milford Road
Drenewydd
Powys
SY16 2EH

01686 626 220

Cysylltu

Authentication

Trusted Charity