Cadwch le yn eich dyddiadur ar ddydd Llun 8 Mawrth ar gyfer yr Uwchgynhadledd rhwng Cenedlaethau Cymru, sy’n cael ei drefnu gan Age Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru gan gynnwys Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru.
Bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei chynnal ar-lein rhwng 2pm - 4pm, a byddwn yn anfon cyfarwyddiadau ymuno ac agenda yn nes at yr amser.
Bydd yr uwchgynhadledd yn trafod yr argymhellion a gynhwysir yn yr adolygiad o fecanweithiau allweddol mewn arferion rhwng cenedlaethau, a’u heffeithiolrwydd o ran lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol.
Os bydd gennych unrhyw anghenion mynediad a hygyrchedd, cysylltwch â Rachel yn Age Cymru.
Rydym yn defnyddio TicketSource i reoli’r broses archebu, a gallwch archebu eich tocyn rhad ac am ddim yma. Wedi i chi archebu byddwch yn awtomatig yn gallu creu nodyn atgoffa ar y calendr. Byddwn yn defnyddio TicketSource i gysylltu â mynychwyr, felly cadwch lygad ar eich ffeil sothach. Hoffem gynnwys yr ystod fwyaf o bobl â phosib, felly mae croeso i chi rannu ein gwahoddiad gyda’ch cysylltiadau.