Mae Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn chwarae rôl hanfodol wrth helpu’r bobl hon i ddelio â’r argyfwng ar yr un pryd â llywio Strategaeth y DU dros Les Ariannol hanfodol bwysig, gan osod sylfaen ar gyfer newid trawsffuriol yn y dyfodol.
Fel rhan o’n ymrwymiad i helpu pobl, rydym wedi lansio’r Teclyn Llywio Ariannol newydd ar-lein yn y Gymraeg a Saesneg, er mwyn helpu pobl sydd wedi gweld effaith Covid-19 ar eu harian, a chan ddarparu cyfarwyddyd sydd wedi eu llunio i ddiwallu eu hanghenion. Rwy’n sicr eich bod yn gweithio gyda phobl sy’n delio â sefyllfaoedd ariannol cymhleth fel diswyddo neu golli swyddi, y sawl sy’n hunangyflogedig y mae eu gwaith wedi dod i ben, a phobl a welodd cwymp dros dro yn eu hincwm sydd angen help i adfer eu sefyllfa ac sy’n ei gweld hi’n anodd gwybod ble i ddechrau. Bydd y teclyn hefyd yn helpu pobl sy’n edrych am gymorth mewn maes penodol, yn ogystal â’r rheiny sydd efallai mewn sefyllfa ariannol well oherwydd Covid-19 ac sydd am wybod beth i’w wneud ag unrhyw gynilion y maent o bosibl wedi eu cronni.
Bydd y teclyn hefyd yn helpu llawer o bobl i ddod o hyd I gymorth gan sefydliadau eraill, fel:
- Cyngor ar Bopeth Cymru, StepChange, National Debtline a PayPlan ar gyfer cyngor ar ddyledion, yn ogystal â Business Debtline ar gyfer perchnogion busnesau;
- Cyngor ar Bopeth Cymru a Turn2Us ar gyfer help â budd-daliadau a Chredyd Cynhwysol; a
- Shelter Cymru, ar gyfer cymorth â thai.
Bydd adnoddau eraill yn cynnwys canllawiau dwyieithog o wefan Gwasanaeth Arian a Phensiynau.