Sicrwydd Ansawdd ar gyfer Elusennau yng Nghymru:
Digwyddiad Lansio’r Ymchwil ar yr Elusen Ddibynadwy (Digwyddiad am ddim)
#DyddMawrthSicrhauAnsawdd
Mae Sicrhau Ansawdd yn bwnc pwysig i elusennau a mudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru.
Mae CGGC wedi gwneud gwaith ymchwil gydag elusennau a chyllidwyr er mwyn canfod eu barn nhw ar sicrhau ansawdd ac yn enwedig Marc Ansawdd a hunanasesu’r Elusen Ddibynadwy (PQASSO cyn hyn).
Byddwch chi’n clywed canfyddiadau’r prosiect ymchwil, a bydd ein partneriaid yn y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol (NCVO) yn rhoi diweddariad ar sut gall yr Elusen Ddibynadwy gynorthwyo mudiadau gyda Sicrhau Ansawdd a datblygiadau newydd.
Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau a dweud wrthym ni pa gymorth rydych chi’n credu sydd ei angen ar fudiadau.
Dydd Mawrth 20 Hydref 1pm – 2pm
Dolen gofrestru: